
Mae MônFM yn falch iawn o gyhoeddi bod y darlledwr profiadol Kev Bach yn ymuno â’r tîm i gyflwyno rhai o’n sioeau brecwast! Mae hyn yn ddatblygiad cyffrous i’n gorsaf wrth i ni barhau i dyfu a datblygu.
Gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant radio, mae Kev yn un o leisiau mwyaf adnabyddus yr ardal. Fel y llais cyntaf ar Champion, ac yn ddiweddarach fel rhan o Heart a Capital, mae wedi ennill dilyniant ffyddlon ar draws Ynys Môn a Gwynedd.
Wrth drafod ei rôl newydd, dywedodd Kev:
“Dwi’n edrych ymlaen at ddod yn ôl i ddarlledu – ac i gyflwyno’r Sioe Frecwast. Ar ôl cyflwyno’r Sioe Frecwast am 16 mlynedd ar Champion a Heart, dwi’n gweld MônFM fel ‘Champion newydd’. Mae potensial yma i fynd â MônFM i’r lefel nesaf.”
Bydd Kev yn cyflwyno sioeau brecwast yn fyw o stiwdios MônFM yn Llangefni bob bore Llun a Mawrth rhwng 7 a 10yb. Bydd y rhaglen yn cynnwys cymysgedd o gerddoriaeth Cymraeg a Saesneg, straeon a newyddion lleol, a sgyrsiau difyr gyda gwesteion o bob rhan o’r ardal ddarlledu.
Wrth groesawu Kev i’r orsaf, dywedodd Tomos Dobson, Cadeirydd MônFM:
“Mae’r cyhoeddiad hwn yn gam mawr ymlaen i MônFM ac yn newyddion gwych i wrandawyr ar draws Gogledd Cymru. Mae Kev Bach yn lais cyfarwydd ac yn bersonoliaeth boblogaidd, ac rydym wrth ein boddau ei fod yn ymuno â’r tîm. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at gydweithio gydag ef i ddatblygu MônFM.”
Bydd Kev yn cyflwyno ei sioe gyntaf ar y 17eg o Fawrth rhwng 7 a 10yb.
Mae modd gwrando ar MônFM ar FM, drwy ein gwefan monfm.co.uk, ar ein ap symudol, neu drwy Alexa.