Ysgol Henblas i greu nwyddau ei hun

Monday, 7 October 2024 23:19

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Bydd entrepreneuriaid brwdfrydig mewn ysgol gynradd yn creu nwyddau ei hun cyn hir.

Mae Ysgol Henblas yn Llangristiolus wedi derbyn offer amrywiaeth o offer argraffu ac argraffydd gwres proffesiynol.

Mae'r offer newydd wedi dod o Nova Chrome, sydd wedi’i leoli ym Mona a chanddo dros 40 mlynedd o brofiad yn y diwydiant anrhegion wedi eu personoli.

Mae wedi ei gyflwyno i’r ysgol gan ddyn busnes lleol, Tony Pritchard, a bydd y offer galluogi’r disgyblion i greu cwpanau, torch allwedd, magnetau oergell a matiau diod wedi eu personoli er mwyn gallu casglu arian ar gyfer yr ysgol.

Dyweddod Huw Jones, pennaeth Ysgol Henblas: "Fel dyn busnes lleol a chyn llywodraethwr ysgol, mae Mr Pritchard wedi bod yn gyfaill i’r ysgol ers nifer o flynyddoedd."

"Ymwelodd â ni’r llynedd er mwyn siarad â’r plant am yr hen Ysgol Henblas a dangos lluniau iddynt am y ffordd y cafodd yr adeilad ei drawsnewid yn gartrefi a hynny fel rhan o’u gwaith dosbarth."

"Rydym yn hynod ddiolchgar i Mr Pritchard a Nova Chrome am eu caredigrwydd ac am y rhoddion rhagorol hyn."

"Mae’r disgyblion yn edrych ymlaen yn arw i ddechrau ar eu menter newydd. Mae aelodau’r cyngor ysgol a’i grŵp entrepreneuriaeth eisoes yn meddwl be allwn ni ei greu fel nwyddau arbennig ar gyfer y Nadolig!"

Mae Nova Chrome hefyd wedi cynnig ymweld â'r ysgol er mwyn darpau'r disgyblion â sesiynau hyfforddiant am ddim.

Dangosodd Ian McDowall, rheolwr technegol Nova Chrome, hefyd i Ioan, Begw, Lili a Catrin sut i ddefnyddio eu hoffer newydd gan hefyd eu cyflwyno â mygiau, magnetau oergell a thorch allwedd wedi eu personoli.

Ychwanegodd y cynghorydd Nicola Roberts, sy'n cynrychioli ward Cefni: "Roeddem wrth ein boddau o allu ymuno â’r disgyblion a Mr Pritchard yn Nova Chrome yr wythnos diwethaf."

"Roedd hi’n braf gweld y wên ar eu hwynebau wrth iddynt gynhyrchu mygiau eu hunain wedi eu personoli – a oedd yn cynnwys eu lluniau a logo Ysgol Henblas wedi ei argraffu arnynt. Rydym yn ddiolchgar iawn i Mr Pritchard a Nova Chrome am eu haelioni."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'