Ysbyty Gwynedd ar frig arolwg meddygon iau yng Nghymru

Monday, 28 October 2024 16:53

By Ystafell Newyddion MônFM

BIPBC

Mae meddygon iau wedi graddio adran achosion brys Ysbyty Gwynedd fel y lle gorau i hyfforddi yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol.

Yn ôl arolwg blynyddol gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC), mae mwy na 90% o feddygon dan hyfforddiant yn fodlon ar ansawdd yr oruchwyliaeth glinigol, y profiad a’r addysg a gânt yn ysbyty Bangor.

Mae'r CMC yn cynnal arolwg hyfforddiant bob blwyddyn er mwyn cael darlun cynhwysfawr o brofiadau meddygon sydd o dan hyfforddiant a hyfforddwyr ar draws y DU.

Roedd Ysbyty Gwynedd hefyd yn bumed ar draws Prydain.

Dywedodd Dr Nikki Sommers, arweinydd clingol ac meddyg ymgynghorol mewn meddygaeth frys: "Rydym yn gweld gwerth yng ngwaith tîm, trugaredd a rhagoriaeth yn ein hadran achosion brys ac mae'n hyfryd derbyn adborth gwych am yr ail flwyddyn yn olynol ein bod yn gwneud pethau'n gywir er gwaethaf yr heriau rydym yn eu hwynebu."

"Rydym yn hynod falch o gael ein graddio fel y gorau yng Nghymru, ac o fod yn y pumed safle, am foddhad hyfforddeion yn gyffredinol."

"Mae addysgu ac addysg wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yma - pan fo gennych feddygon hapus ac sy'n derbyn cefnogaeth, maen nhw'n rhoi gofal gwell i gleifion."

"Mae gennym dîm anhygoel yma sy'n rhoi cefnogaeth wych i'n hyfforddeion, o'n staff gweinyddol, nyrsys a meddygon ymgynghorol sydd oll yn gwneud yn siŵr eu bod yn teimlo bod croeso iddyn nhw a'u bod yn cael cefnogaeth yn ystod eu cyfnod yma."

Cyrhaeddodd Dr Jordan Cazier, meddyg preswyl yn yr adran achosion brys, ddwy flynedd yn ôl ac mae wedi canmol yr awyrgylch cyfeillgar yn yr adran a'r gefnogaeth gan ei huwch gydweithwyr.

Dywedodd: "Nid yw'n syndod bod yr adran wedi cael ei graddio fel yr un gorau yng Nghymru fel y lle gorau i hyfforddi ar gyfer yr ail flwyddyn yn olynol."

"Cyrhaeddais ddwy flynedd yn ôl, doedd dim disgwyl i mi fod yma gyhyd ond dewisais aros gan fod yr adran yn lle mor wych i weithio."

"Mae gen i gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, rwy'n cael cymorth gwych gan fy nghydweithwyr yn cynnwys addysgu a hefyd gymorth emosiynol pan fo angen."

"Mae hefyd yn lle perffaith i fyw, mae pwyslais ar bethau awyr agored yn yr adran felly rwy'n mwynhau gweithio yn rhywle lle galla' i fwynhau bod ym myd natur a'r mynyddoedd."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'