Ymgynghoriad ar y drefn bleidleisio yng Ngwynedd

Saturday, 7 September 2024 00:09

By Ystafell Newyddion MônFM

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar newid posib i’r drefn o ddewis cynghorwyr i gynrychioli pobl leol ar Gyngor Gwynedd yn cau yn fuan.

Mae gan bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio yng Ngwynedd gwta bythefnos ar ôl os ydynt am gymryd rhan yn yr ymarferiad a dweud eu dweud drwy lenwi holiadur byr.  

Ar hyn o bryd, caiff Cynghorwyr Sir Gwynedd eu dewis drwy drefn etholiadol Mwyafrif Syml (sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel system cyntaf i’r felin).

Yr opsiwn arall i gynghorau Cymru yw System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel system bleidleisio gyfrannol neu ‘proportional representation’).

Mae’r holiadur wedi bod ar gael ers 15 Gorffennaf a bydd yn cau ar 15 Medi 2024, wedi i Gyngor Gwynedd benderfynu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar newid posib i’r drefn pleidleisio.

Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, aelod y cabinet dros adran cefnogaeth gorfforaethol: "Diolch i bawb sydd eisoes wedi manteisio ar y cyfle i ddatgan eu barn ar y mater."

"Hoffwn atgoffa rheini sy’n dymuno dweud eu dweud ond heb wneud eto fod ganddynt hyd nes 15 Medi i gymryd rhan. Mae’r holiadur byr ar gael ar wefan y Cyngor ac mae’n hawdd i’w lenwi."

"Wedi i’r ymarferiad ddod i ben, bydd cynghorwyr Gwynedd yn ystyried yr holl ymatebion ac adborth yn ofalus cyn gwneud penderfyniad terfynol mewn cyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn ym mis Hydref 2024."

“Fel rhan o’r broses ymgynghori hon, rydym hefyd yn casglu barn cynghorau cymuned, cynghorau tref a’r cyngor dinas yng Ngwynedd.”

Mae modd cymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy fynd i wefan Cyngor Gwynedd.

Mae copïau papur ar gael o lyfrgelloedd Gwynedd ac yn Siop Gwynedd Caernarfon, Dolgellau a Phwllheli (ar agor 9am-4pm o dydd Llun i dydd Gwener). I dderbyn copi drwy’r post, neu mewn iaith neu fformat arall, ffoniwch 01766 771000.

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    3:00pm - 5:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'