Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i lansio ar gynlluniau i reoli’r perygl lifogydd ym Môn.
Yn ôl y cyngor sir, bydd barn y cyhoedd ar fersiwn diwygiedig o'r strategaeth leol yn "hollbwysig".
Mae fersiwn drafft o'r strategaeth, sy'n cwmpasu'r chwe blynedd nesaf, wedi'i chyhoeddi i nodi dechrau Wythnos Hinsawdd Cymru.
Bydd yr ymgynghoriad yn para 6 wythnos a bydd yn helpu i wella'r modd y caiff perygl llifogydd ei reoli ledled yr ynys.
Bydd nifer o sesiynau personol gyda staff y cyngor hefyd yn cael eu cynnal yn ystod mis Tachwedd.
Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, pwy sy'n dal y portffolio cynllunio a newid hinsawdd: "Mae newid hinsawdd yn dal i beri risg sylweddol i ni fel awdurdod lleol."
"Felly, mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n cael barn y cyhoedd i wneud yn siŵr bod y drafft newydd yn adlewyrchu anghenion a phryderon ein cymunedau."
"Rydym yn awyddus iawn i glywed gan bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd yn y gorffennol. Bydd eu sylwadau'n ein helpu i wneud yn siŵr bod y strategaeth leol ar gyfer rheoli perygl llifogydd a'n cynlluniau gweithredu yn rhesymol, effeithiol a chynaliadwy."
Bydd y sesiynau galw heibio'n cael eu cynnal ar y dyddiadau isod:
- Dydd Mawrth 19 Tachwedd: Canolfan Ebeneser, Llangefni (2-7yh)
- Dydd Mercher 20 Tachwedd: Neuadd Goffa Amlwch (2-7yh)
- Dydd Llun 25 Tachwedd: Neuadd y Dref, Biwmares (2-7yh)
- Dydd Iau 28 Tachwedd: Llyfrgell Caergybi (2-7yh)
Mae Cyngor Ynys Môn yn gyfrifol o dan y gyfraith am greu strategaeth i reoli perygl llifogydd. Mae'n rhaid iddo hefyd ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid perthnasol eraill wth ddatblygu ei strategaeth.
Yn ddiweddar, cafodd fersiwn ddiwygiedig ei chymeradwyo gan brif weithredwr y cyngor er mwyn ymgynghori arni.
Ychwanegodd y Cyng Roberts: "Drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad byddwch yn ein helpu i reoli perygl llifogydd yn well o amgylch yr Ynys."
Mae'r arolwg ar gael ar wefan Cyngor Ynys Môn, gan gynnwys fersiwn drafft y strategaeth.
Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus yn parhau tan ddydd Gwener 20 Rhagfyr.