Y Fali: apêl newydd wedi gwrthdrawiad difrifol

Wednesday, 13 November 2024 22:48

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Y Fali ar Noson Tân Gwyllt.

Cafodd dynes ei tharo gan gerbyd Range Rover ar Ffordd Llundain tua 2.30yp ddydd Mawrth 5 Tachwedd.

Cafodd ei chludo mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gydag anafiadau difrifol.

Mae nifer o dystion wedi dod ymlaen ers y gwrthdrawiad, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, ond mae swyddogion yn adnewyddu eu hapêl.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â PC Hayes ar 101 neu ewch i wefan Heddlu Gogledd Cymru, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 24000940081.

 

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'