
Derbyniodd Fforwm Iaith Ynys Môn ddiweddariad ar y cynlluniau i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2026 ar Ynys Môn yn ddiweddar.
Clywodd y Fforwm gyflwyniadau gan Wasanaeth Dysgu Cyngor Sir Ynys Môn, Grŵp Llandrillo Menai, Mapio Cyhoeddus Môn a'r Urdd wrth i'r paratoadau ar gyfer yr ŵyl genedlaethol fynd rhagddynt.
Cynhelir yr ŵyl symudol flynyddol ar Ynys Môn am y tro cyntaf ers 2004 a disgwylir y bydd tua 100,000 o bobl yn ymweld â'r digwyddiad – gan ddarparu hwb i'r economi leol.
Bydd gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop, Eisteddfod yr Urdd yn dathlu diwylliant plant a phobl ifanc Cymru ar Faes Sioe Môn ym Mona, Ynys Môn rhwng 25 a 31 Mai 2026.
Pwrpas Fforwm Iaith Ynys Môn yw hyrwyddo cydweithio rhwng sefydliadau er lles y Gymraeg ym Môn.
Gwelir cynnal Eisteddfod yr Urdd fel hwb sylweddol i'r Gymraeg, pobl ifanc a'r economi leol.
Mae'r Eisteddfod hefyd yn cefnogi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg tra'n rhoi pŵer i blant gael llais yn eu dyfodol.
Dywedodd Annwen Morgan, cadeirydd annibynnol y Fforwm: "Roedd cael clywed yr holl gyflwyniadau am yr hyn sy'n digwydd ar yr Ynys ac am gynlluniau cyffrous Eisteddfod yr Urdd 2026 yn sicr yn gychwyn arbennig o bositif i 2025."
"Mae'r Fforwm yn edrych ymlaen i barhau â'r cydweithio agos â'i bartneriaid er mwyn adeiladu ar y cynnydd cadarnhaol sydd eisoes wedi'i wneud."
Ychwanegodd Annwen, "Hoffwn ddiolch i bawb am eu hamser a'u hymrwymiad i hyrwyddo'r iaith a sicrhau ein bod ar y trywydd cywir i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."
Eglurodd yr deilydd portffolio addysg ac iaith Gymraeg, y Cynghorydd Dafydd Roberts, "Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o'n hunaniaeth, diwylliant a threftadaeth ac mae cyfrifoldeb arnom i sicrhau bod yr iaith yn parhau i ddatblygu a ffynnu – fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor 2023 i 2028."
"Mae'r fforwm yn parhau i weithio'n galed er mwyn hyrwyddo pob agwedd o'r Iaith Gymraeg gan helpu i roi hwb i ddarpariaethau iaith ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
"Mae gweithio â phartneriaid lleol a chenedlaethol er mwyn creu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol yn hollbwysig."
"Mae Eisteddfod yr Urdd yn cynnig ffordd unigryw ond pwerus o ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau profiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Hoffwn ddiolch i'r fforwm a'r partneriaid am eu gwaith caled parhaus."