
Dros yr wythnosau nesaf, bydd Cyngor Gwynedd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau 'Tai ar Daith' trwy'r sir er mwyn rhannu gwybodaeth a chyngor am faterion tai gyda thrigolion y sir.
Yn dilyn poblogrwydd y digwyddiadau y llynedd, bydd Tai ar Daith yn ymweld â Bethesda, Porthmadog, Tywyn a Nefyn eleni, gan ddechrau gyda'r digwyddiad cyntaf yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda ar 10 Ebrill 2025 o 4:00pm tan 6:30pm.
Pwrpas y digwyddiadau hyn yw codi ymwybyddiaeth o'r cynlluniau tai sydd ar gael er mwyn sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartrefi fforddiadwy, o safon, yn eu cymunedau eu hunain.
Yn ystod y digwyddiadau, bydd cynrychiolwyr o'r cyngor a phartneriaid allweddol wrth law i ddarparu gwybodaeth a chyngor arbenigol.
Bydd hyn yn cynnwys manylion am grantiau a benthyciadau sydd ar gael i helpu trigolion Gwynedd i brynu cartref, prosiectau i gynyddu'r cyflenwad tai ledled Gwynedd a phrosiectau i fynd i'r afael â digartrefedd yn y sir, ymysg llawer mwy.
Bydd swyddogion ar gael i helpu gydag unrhyw fater sy'n ymwneud â thai, o lenwi ffurflenni i drafod ceisiadau gan sicrhau bod pob mynychwr yn derbyn cefnogaeth sy'n addas i'w hanghenion personol.
Bydd amrywiaeth eang o wasanaethau'r Cyngor yn cael eu cynrychioli yn y digwyddiad, gan gynnwys:
- Cymorth costau byw
- Cynllunio
- Cynlluniau tai
- Digartrefedd
- Gwybodaeth i deuluoedd
- Opsiynau tai
- Tai gwag
- Ynni
Bydd cymdeithasau tai hefyd yn bresennol, ochr yn ochr â phartneriaid sy'n ymwneud â phrosiectau tai mewn ardaloedd penodol.
Daw'r digwyddiadau hyn o dan faner cynllun gweithredu tai gwerth £140 miliwn y cyngor i fynd i'r afael â phrinder tai'r sir a sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartref addas o safon, sy'n fforddiadwy ac sy'n gwella eu hansawdd bywyd.
Mae'r Cynghorydd Paul Rowlinson, aelod cabinet tai ac eiddo Cyngor Gwynedd, yn annog pobl i fynychu: "Mae llawer iawn o waith wedi bod yn digwydd dros y blynyddoedd diwethaf i fynd i'r afael â'r argyfwng tai yng Ngwynedd, ac mae'r digwyddiadau Tai ar Daith yma'n gyfle i bobl ddysgu mwy am gynlluniau tai'r Cyngor a'i bartneriaid a thrafod eu hanghenion wyneb-yn-wyneb efo arbenigwyr yn y maes."
"Gall hyn gynnwys cefnogaeth gyda digartrefedd, tai cymdeithasol, benthyciadau i brynu cartref, dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, adeiladu cartrefi newydd, a llawer iawn mwy. Os oes gennych chi unrhyw bryder neu gwestiwn sy'n ymwneud â thai, mae'r digwyddiad yma i chi."
"Mae'r cyngor yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i fynd i'r afael â'r argyfwng tai a darparu cymorth i'n cymunedau."
"Tra bod ein drysau bob amser ar agor i'r rhai sydd angen cefnogaeth, mae'r digwyddiadau Tai ar Daith yn cynnig ffordd uniongyrchol i ddysgu mwy am sut y gallwn eich helpu chi, gyda'r holl wasanaethau tai ar gael o dan yr un to."
Digwyddiadau i ddod
- Dydd Iau 10 Ebrill, 4yp - 6.30yh - Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda
- Dydd Mercher 7 Mai, 3yp - 6.30yh - Y Ganolfan, Porthmadog
- Dydd Iau 15 Mai, 3yp - 6.30yh - Neuadd Pendre, Tywyn
- Dydd Mawrth 3 Mehefin, 3yp - 6.30yh - Y Ganolfan, Nefyn