Tafod Glas: achos newydd ym Môn

Wednesday, 2 October 2024 21:35

By Ystafell Newyddion MônFM

Llywrodaeth Cymru

Mae'r achos cyntaf o straen newydd o'r tafod glas wedi ei ddarganfod yn Ynys Môn.

Dyma'r pedwerydd achos i'w ganfod yn y Gogledd Orllewin yr wythnos hon.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, cafodd yr achos newydd o tafod glas Seroteip 3 (BTV-3) ei ddarganfod mewn anifail anhysbys sydd wedi'i symud i'r ynys o ddwyrain Lloegr.

Yr wythnos diwethaf, fe gafodd tri achos eu darganfod mewn praidd o ddefaid yng Ngwynedd, sydd hefyd wedi'u symud yno o'r un ardal.

Mae'r tafod glas yn cael ei achosi gan feirws sy'n cael ei drosglwyddo'n bennaf gan rai mathau o wybed sy'n brathu. Mae'n effeithio ar anifeiliaid cnoi cil (fel gwartheg, geifr, defaid a cheirw) a chamelidau (fel alpacas a lamas).

Nid yw'r tafod glas yn effeithio ar bobl nag ar ddiogelwch bwyd.

Mewn datganiad byr nos Fercher, dwyeddod llefarydd y llywrodaeth: "Mae ffermwyr yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus am y clefyd a phrynu anifeiliaid o ffynhonnell ddiogel."

Mae swyddogion amaethyddol yn annog ffermwyr sy'n sylwi ar unrhyw achosion pellach i hysbysu'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar unwaith.

Mewn datganiad yn gynharach ddydd Mercher, dyweddod yr Dirpwy Brif Weinidog, Huw Irranca Davies: "Nod fy mholisi o hyd yw cadw'r tafod glas allan o Gymru, er lles ein hanifeiliaid a'r rhai sy'n eu cadw."

Rwy’n deall y bydd llawer o ffermwyr yn poeni am y fafod glas. Mae delio'n llwyddiannus â chlefydau fel hyn yn gofyn am gydweithio rhwng ffermwyr, milfeddygon a gwahanol asiantaethau'r llywodraeth."

Cafodd y tair dafad heintiedig yng Ngwynedd eu difa a'u gwaredu i leihau'r risg o drosglwyddo feirws y tafod glas i wybed lleol.

Roedd canlyniadau profion ar ddefaid a gwartheg eraill ar y fferm yn negyddol ond bydd rhai cyfyngiadau ar y safle yn parhau am y tro.

Mae gwybodaeth am arwyddion clinigol y tafod glas a'r camau i'w cymryd ar gael ar y wefan Llywrodaeth Cymru.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'