Sioe newydd ar Morwyn Llyn y Fan

Monday, 21 October 2024 14:11

By Ystaffell Newyddion MônFM

BANDO!

Mae cwmni theatr newydd ar daith gyda fersiwn unigryw o stori werin chwedlonol.

Hanes Morwyn y Llyn o Lyn y Fan Fach yw un o'r straeon gwerin mwyaf adnabyddus Cymru.

Mae'n cael ei hailadrodd yn Y Llyn gan y cwmni Bando!, sydd yn hyrwyddo adrodd straeon wrth weithio gyda ffurffiau celfyddydol eraill heb unrhyw reolau na therfynau.

Bydd y cynhyrchiad dwyieithog yn cael ei berfformio yng Nghaergybi a Chaernarfon fis nesaf fel rhan o daith genedlaethol.

Mae’r stori werin hon yn cael ei pherfformio gan Bando! mewn ffordd hollol newydd, trwy cerddoriaeth, dawns a gwaith byrfyfyr.

Dyweddod Michael Harvey, cyfarwyddwr artistig Bando!: "Pan greon ni Y Llyn yn 2022 roeddwn i’n gwybod, o weithio gyda Stacey Blythe ar y stori honno, bod cerddoriaeth a chwedlau yn cyd-fynd yn berffaith.

"Roeddwn eisoes wedi darganfod bod adrodd yn ddwyieithog Cymraeg/Saesneg yn gweithio ac with weithio gydag Eeva-Maria Mutka gwyddwn fod y corff ac adrodd straeon yn gyfuniad deinamig."

"Pan rhoddon ni hyn i gyd at ei gilydd cawsom ein syfrdanu gan yr ymateb gan gynulleidfaoedd a’r galw am ddatblygu ac adrodd straeon fel hyn."

Mae'r cwmni wedi derbyn arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru i fynd ar daith gyda'r sioe, yn dilyn rhagflas llwyddiannus yng ngŵyl ddrama 'Beyond the Border'.

Ychwanegodd Michael: "Fel Bando! byddwn yn archwilio cyfleoedd i weithio gyda, a chefnogiartistiaid ymroddedig a thalentog. Byddwn yn ehangu pwy sy'n creu straeon, sut rydym yn eu creu ac yn perfformio'n ddwyieithog ac ymestyn, yn fyrfyfyr ar yr hyn y gall adrodd straeon fod."

"Rydyn ni eisiau creu gofod heb reolau ar sut rydym yn creu straeon gan fynd y tu hwnt i ieithoedd, corff a meddyliau er mwyn cysylltu â chynulleidfaoedd a chyfranogwyr yng Nghymru a thu hwnt.”

Bydd Y Llyn yn cael ei pherfformio ar fferm Permaculture Henbant ger Caernarfon ar nos Wener 8 Tachwedd ac yng Nghanolfan Ucheldre yng Nghaergybi ar nos Sadwrn 9 Tachwedd.

Am fwy o wybodaeth, ewch i'r gwefan Bando! neu dilynwch y grŵp ar Facebook ac Instagram

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'