Sefydliadau cyhoeddus yn ymrwymo i deithio llesol

Cyngor Gwynedd

Mae nifer o sefydliadau cyhoeddus Gwynedd a Môn wedi ymrwymo i gynorthwyo pobl i wneud newidiadau bach a allai gael dylanwad mawr ar iechyd a llesiant pawb.

Mewn digwyddiad arbennig yng nghwmni Ken Skates, Ysgrifennydd Gogledd Cymru, cyd-arwyddwyd Siarter Teithio Llesol ar gyfer y ddwy sir.

Mae Teithio Llesol yn annog gadael y car gartref a defnyddio ffyrdd gwahanol o fynd o A i B, gan gynnwys defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu gerdded a seiclo.

Yn aml, gan fod elfen o ymarfer corfforol i'r math yma o deithio, mae buddion amlwg i iechyd a llesiant yr unigolyn, yn ogystal â'r ffaith ei fod yn well i'r amgylchedd drwy dorri lawr ar ddefnydd tanwydd ffosil ac allyriadau carbon.  

Mae Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru ynghyd â'r aelodau gwadd Prifysgol Bangor a Medrwn Môn wedi cymryd y cam cyntaf hwn mewn cyfarfod arbennig o'r bwrdd a gynhaliwyd ddydd Iau 13 Mawrth yng Nghanolfan Fusnes Môn, Llangefni.

Drwy arwyddo'r Siarter mae'r sefydliadau yn ymrwymo i 15 o gamau gweithredu sy'n cyfrannu at hyrwyddo teithio llesol er budd iechyd a lles staff a defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys:

  • teithio amgen yn hytrach na defnyddio car, yn enwedig ymhlith staff ar gyfer teithio (i ac o'r gwaith) a theithio busnes
  • cefnogi staff ac ymwelwyr i gerdded a beicio mwy
  • defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • newid i gerbydau trydan lle'n bosibl

Mae lansiad y Siarter yn ganlyniad cydweithio brwd rhwng y sefydliadau i gyrraedd yr amcan o symud tuag at sero net carbon yn unol â Chynllun Llesiant y Bwrdd 2023-25.

Dywedodd Yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy i'r Is-Ganghellor Prifysgol Bangor a Chadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn: "Mae camau enfawr wedi'u cymryd gan y sefydliadau sy'n arwyddo a chyd-arwyddo'r Siarter Teithio Llesol yma heddiw i ymsefydlu teithio llesol, gan ei gwneud yn haws i staff gymryd y camau bychain hynny tuag at newid i gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithio sy'n gysylltiedig â'r gwaith."

"Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yn ffodus iawn o gael Is-Grŵp Siarter Teithio Llesol rhagweithiol a chefnogol tu hwnt sydd wedi cynorthwyo'i gilydd, y sefydliadau sydd yma heddiw, i gyrraedd y nod arbennig hwn o arwyddo'r Siarter."

"Wrth gychwyn ar y siwrnai yma, rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i rhagor o aelodau'r Bwrdd ymuno ac arwyddo'r Siarter, fel bod sefydliadau cyhoeddus Gwynedd a Môn yn gwneud eu rhan i wneud gwahaniaeth a lleihau'r allyriadau carbon a hyrwyddo'r buddiannau sylweddol i iechyd staff, y cyhoedd a'r blaned." 

Ychwanegodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a arwyddodd y siarter ar ran y cyngor: "Fel aelod statudol o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn, mae Cyngor Gwynedd yn hynod falch o fod wedi gallu ymrwymo i'r Siarter Teithio Llesol ar gyfer Gwynedd a Môn."

"Mae'r cyngor yn barod wedi cychwyn ar y daith o hyrwyddo teithio llesol o fewn y sefydliad. Mae symud i'r cyfeiriad yma wedi galluogi'r cyngor i leihau allyriadau carbon wrth i staff deithio yn ôl ac ymlaen i'r gwaith a theithio fel rhan o'u gwaith."

"Rydym hefyd wedi gweld buddsoddi i uwchraddio cerbydau fflyd y cyngor i fod yn rhai trydan a sicrhau bod gan Ofalwyr Cymunedol fynediad i geir trydan ar gyfer eu gwaith, ac wedi gosod pwyntiau gwefru i'r pwrpas."

"Edrychwn ymlaen at weld mwy o ddatblygiadau ar y daith hon ar draws sefydliadau cyhoeddus Gwynedd a Môn, fel gallwn i gyd gyrraedd yr amcan o symud tuag at sero net carbon."

Dros y misoedd nesaf bydd rhagor o aelodau'r bwrdd yn ymuno ar y daith o lofnodi'r siarter.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    2:00pm - 4:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'