Rhybydd yn erbyn gwrychoedd a choed sy’n gordyfu

Tuesday, 10 September 2024 13:43

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae Cyngor Mon yn annog perchnogion tir preifat i gynnal a chadw gwrychoedd a choed sy’n gordyfu.

Gan fod y tymor nythu adar bellach drosodd, mae'r cyngor yn yn atgoffa berchnogion tir ac eiddo gynnal eu gwrychoedd a'r coed sydd ganddynt o fewn eu terfynau.

Gall gwrychoedd a choed sy'n gordyfu o dir preifat i'r ffordd neu lwybr troed achosi niwsans neu berygl i'r cyhoedd sy’n teithio ar y briffordd.

Mae'r cyngor yn annog yr holl berchnogion tir ac eiddo i sicrhau nad yw gwrychoedd na'u coed cyfagos yn gordyfu nac yn ymyrryd ar y briffordd a’r defnydd diogel ohoni gan gerddwyr, beicwyr a cherbydau.

Mae perchnogion tir ac eiddo hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod eu coed peryglus, fel y rhai sydd wedi'u heintio â chlefyd ynn, yn cael eu torri.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, deilydd portffolio priffyrdd: "Mae gan bob perchennog tir ac eiddo ddyletswydd gofal i sicrhau nad yw eu gwrychoedd a choed yn peri risg i ddefnyddwyr y ffordd a cherddwyr sy’n defnyddio llwybrau troed neu bafinau."

"Mae hi bellach yn gyfle gwych i berchnogion tir ac eiddo gynnal eu gwrychoedd a'u coed ffin gan fod y tymor nythu adar drosodd."

“Mae gan Gyngor Sir Ynys Môn, y pwerau i gyflwyno rhybudd ar berchnogion tir ac eiddo. Fodd bynnag, byddai’n well gan y cyngor weld perchnogion tir ac eiddo yn trefnu neu wneud y gwaith eu hunain.”

Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Môn: "Dylai canghennau neu wrychoedd sy'n rhwystro tramwyfa, gwelededd neu sy’n amharu ar effeithiolrwydd goleuadau stryd ac arwyddion gael eu lopio neu eu tocio yn ôl i linell fertigol gyda ffin yr eiddo."

"Cyfrifoldeb perchennog y tir ac eiddo hefyd yw casglu'r toriadau a sicrhau bod y briffordd yn cael ei chlirio ar ôl cwblhau'r gwaith."

Gellir rhoi gwybod am goed neu wrychoedd sy’n gordyfu i’r briffordd drwy anfon neges e-bost at pemht@ynysmon.llyw.cymru

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    3:00pm - 5:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'