Mae Cyngor Gwynedd wedi dechrau gwaith ar brosiect tai fforddiadwy mawr.
Bydd dros 90 o gartrefi yn cael eu hadeiladu ar draws y sir yn y misoedd nesaf fel rhan o gynllun Tŷ Gwynedd, gan ddechrau yn Llanberis.
Mae'r cyngor yn adeiladu ei gartrefi newydd cyntaf ar y safle ers dros 30 mlynedd, er mwyn darparu mwy o dai o safon uchel i bobl leol.
Yn Llanberis bydd tri tŷ yn cael eu codi, sef dau dŷ pâr gyda dwy ystafell wely; ac un tŷ ar wahân gyda thair ystafell wely. Bwriad y tai yw diwallu anghenion pobl leol, yn enwedig rheini sy'n ei chael hi'n anodd prynu neu rentu cartref ond sydd efallai ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, aelod cabinet tai ac eiddo Cyngor Gwynedd: "Rydym yng nghanol argyfwng tai, ac mae'n hanfodol ein bod yn codi mwy o dai i fynd i'r afael â'r prinder dybryd o gartrefi fforddiadwy yn ein cymunedau."
"Mae Tŷ Gwynedd yn un o'r prosiectau allweddol o fewn y cynllun gweithredu tai, ac mae'n foment o falchder personol mawr gweld y weledigaeth yma'n dechrau cymryd siâp ar ôl blynyddoedd o gynllunio trylwyr gan swyddogion y cyngor."
"Hoffwn ddiolch i bawb a ymunodd â ni yn y digwyddiad i ddathlu'r garreg filltir arwyddocaol hon yn Llanberis, yn enwedig plant Ysgol Dolbadarn, sy'n cynrychioli dyfodol ein cymunedau."
Mae'r cyngor yn anelu at ddarparu 1,000 o dai fforddiadwy o fewn y tair blynedd nesaf, fel rhan o'i gynllun gweithredu ehangach.
Bydd y cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu gyda ffocws ar effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio technolegau gwyrdd a dyluniadau arloesol i gadw'r tai yn gynnes a'r biliau ynni yn isel. Bydd llechi lleol Cymreig yn cael eu defnyddio ar y toeau.
Ychwanegodd y Cynghorydd ab Iago: "Mae'n bwysig pwysleisio mai dim ond un o blith nifer o gynlluniau y mae'r Cyngor yn eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r argyfwng yw hwn."
"Mae cynlluniau eraill yn cynnwys darparu grantiau a benthyciadau i helpu pobl Gwynedd i brynu ac adnewyddu tai, prynu eiddo i'w rentu i bobl leol am bris fforddiadwy a sawl cynllun i daclo digartrefedd yng Ngwynedd."
"Mae'r prosiectau yma i gyd yn hollbwysig i sicrhau ein bod yn darparu'r hawl dynol sylfaenol o gartrefi diogel, fforddiadwy ac addas i bobl y sir."
Disgwylir y bydd y gwaith adeiladu yn cwblhau o gwmpas haf 2025 a bydd y tai yn cael eu dyrannu drwy gofrestr cartrefi fforddiadwy Tai Teg.