Mae Gary Pritchard wedi ei ethol yn arweinydd newydd Cyngor Ynys Môn.
Mae arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor sir yn olynu Llinos Medi yn dilyn ei hethol yn AS Ynys Môn yn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf.
Yn ôl yr arweinydd newydd, bydd Cyngor Môn yn parhau i weithio’n galed ar ran trigolion yr Ynys a chydweithio’n lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Dywedodd y Cynghorydd Pritchard: "Bydd cysondeb, dyfalbarhad a chydweithio yn allweddol wrth i ni symud ymlaen."
"Fel arweinydd, byddaf yn rhoi cant y cant er mwyn sicrhau bod y cyngor yn darparu’r gwasanaethau gorau posib i bobl yr ynys. Dyma’r nod - er ein bod yn parhau i wynebu heriau cyllidol sylweddol wrth geisio sefydlu cyllideb ar gyfer 2025/26."
“Byddaf yn adeiladu ar waith dygn y cyn-arweinydd...a lwyddodd i roi’r cyngor ar seiliau cadarn ac yn yr un modd yn barod i gydweithio gyda holl aelodau etholedig er mwyn gwireddu ein hamcanion a’n gwerthoedd er budd ein holl gymunedau a thrigolion.”
“Nod Plaid Cymru, fel grŵp rheoli, yw parhau i arwain cyngor sy’n perfformio’n dda a chyflawni amcanion Cynllun y Cyngor er mwyn sicrhau bod Ynys Môn yn ynys iach a llewyrchus lle gall bobl ffynnu."
"Mae’r weledigaeth yma wedi ein hymrwymo i ddarparu'r gwasanaethau gorau posib i holl drigolion yr ynys."
Cafodd Mr Pritchard ei ethol i'r cyngor yn mis Mai 2021 fel cynghorydd yn y ward Seindorf (yr ardal Biwmares).
Ym mis Mehefin 2022, ymunodd â’r cabinet fel deiliad portffolio plant a phobl ifanc, cyn symud i’r portffolio tai y flwyddyn ganlynol.
Am y flwyddyn ddiwethaf, roedd y Cynghorydd Pritchard hefyd yn ddirprwy arweinydd y cyngor.
I ffwrdd o wleidyddiaeth, mae Pritchard yn fwyaf adnabyddus am ei waith fel newyddiadurwr a sylwebydd pêl-droed, yn gweithio ar rhaglen Sgorio ar S4C.
Ychwanegodd: "Rydym yn hynod o falch o'r adroddiadau positif gafwyd yn ddiweddar ar ein gwasanaethau plant, gwasanaethau oedolion a’r adran addysg."
"Mae’r gwasanaeth tai yn parhau i ymateb i’r her dai lleol ac mae’r adran datblygu economi yn gweithio’n ddiflino er mwyn ymateb i strategaethau'r ddwy lywodraeth."
"Mae pob un o adrannau’r cyngor yn cyflawni. Mae ein staff yn ased amhrisiadwy ac mae ein diolch yn fawr iawn iddyn nhw am lwyddo i gyflawni ein gofynion … a mwy.”
“Byddaf fel arweinydd hefyd yn sicrhau bod cydweithio’n parhau ar sawl lefel ranbarthol a chenedlaethol gan roi llais cryf i’r awdurdod.”
“Mae'r sefyllfa economaidd a'r argyfwng costau byw yn parhau i frathu. Mae galw cynyddol am ein gwasanaethau ac mae'r cyfnod sydd o'n blaenau am fod yn heriol iawn gyda chyllidebau yn cael eu gwasgu."
"Er gwaethaf hynny, mae yna gyfleoedd cyffrous i'r ynys ond mae angen i'r llywodraeth wneud penderfyniadau buan fel ein bod yn gallu bod yn rhan o unrhyw siwrne a sicrhau'r buddion mwyaf i Fôn a'i thrigolion.”
Cafodd y Cynghorydd Robin Williams ei enwi fel dirprwy arweinydd newydd y cyngor gyda chyfrifoldeb am gyllid a thai.
Bydd y Cynghorydd Pritchard hefyd yn dal y portffolio ar gyfer datblygu economaidd. Mae aelodau eraill y pwyllgor gwaith yn cynnwys:
- Cynghorydd Dafydd Roberts - Addysg a’r Iaith Gymraeg
- Cynghorydd Dyfed Wyn Jones – Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd
- Cynghorydd Carwyn Elias Jones – Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer
- Cynghorydd Alun Roberts - Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol
- Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas – Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff
- Cynghorydd Nicola Roberts – Cynllunio, Newid Hinsawdd a Gwarchod y Cyhoedd
- Cynghorydd Neville Evans – Hamdden, Twristiaeth a Morwrol
Ychwanegodd prif weithredwr y cyngor, Dylan Williams: "Hoffwn longyfarch y Cynghorydd Gary Pritchard ar gael ei ethol fel arweinydd y cyngor sir ac edrychaf ymlaen at gydweithio’n agos i’r dyfodol."