Mae'r Prif Weinidog wedi agor ysgol feddygol newydd ym Mhrifysgol Bangor.
Mae dros 80 o fyfyrwyr meddygol wedi dechrau astudio, gan gynnwys cymysgedd o bobl ifanc sydd wedi gadael yr ysgol a myfyrwyr graddedig.
Nhw fydd y rhai cyntaf i gael eu holl hyfforddiant meddygol yng Ngogledd Cymru.
Cyn diwedd y ddegawd, bydd nifer y myfyrwyr meddygol yn cynyddu i 140 y flwyddyn.
Mae Eluned Morgan, wedi disgrifio agoriad yr ysgol newydd fel "gam enfawr ymlaen".
Dywedodd y Prif Weinidog: "Mae recriwtio meddygon medrus yn her fawr ar draws y Deyrnas Unedig ac Ewrop."
"Bydd yr ysgol feddygol yn gam enfawr ymlaen ar gyfer recriwtio meddygon yng Nghymru, gan alluogi mwy o fyfyrwyr meddygol i hyfforddi yn y rhanbarth, sy'n dda i'n gwasanaeth iechyd, yn enwedig yn y Gogledd."
"Mae sefydlu'r Ysgol Feddygol yn cyflawni un o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu ar gyfer y rhanbarth, ac yn benllanw pum mlynedd o waith caled gan y bwrdd iechyd a'r prifysgolion."
"Cyn bo hir, bydd yr ysgol yn cyflenwi meddygon i'r gwasanaeth iechyd – a'r rheini wedi cael hyfforddiant modern o'r radd flaenaf fydd yn eu galluogi i ddarparu gofal rhagorol yn y dyfodol."
Roedd yr Ysgrifennydd Iechyd newydd hefyd yn bresennol yn yr agoriad swyddogol.
Dwyeddod Jeremy Miles: "Mae agor yr Ysgol Feddygol yn brawf ein bod wedi ymrwymo o hyd i wasanaeth iechyd sy'n darparu gofal mor agos â phosib i gartrefi pobl."
Ychwanegodd: "Trwy ddewis astudio yma, bydd myfyrwyr yn elwa o gyfleusterau hyfforddi modern, addysg gofal iechyd flaengar, staff addysgu profiadol, a chefnogaeth barhaus gan staff y Gwasanaeth Iechyd ar draws y rhanbarth."
Dechreuodd y gwaith cynllunio ar gyfer yr ysgol newydd yn 2020, pan gytunodd Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth.
Dywedodd Dyfed Edwards, cadeirydd bwrdd Betsi Cadwaladr: "Bydd yr ysgol feddygol newydd yn allweddol i helpu i fynd i'r afael â'r heriau o ran hyfforddi a chadw meddygon, gan gryfhau'r ddarpariaeth o ofal iechyd dwyieithog ar draws y rhanbarth."
"Ry'n ni'n cydnabod bod meddygon yn tueddu i ymarfer yn agos at lle maen nhw'n hyfforddi, felly'r nod yw annog myfyrwyr i ddatblygu gyrfaoedd gydol oes yn y Gogledd, er budd y boblogaeth leol a'i chymunedau."
"Bydd cyfleoedd hefyd ar gyfer datblygiadau o ran ymchwil ac arloesi drwy ein gwaith partneriaeth. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar recriwtio a chadw meddygon yn ogystal â gwella canlyniadau i gleifion."
"Ry'n ni'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Phrifysgol Bangor i gyflenwi carfan newydd o feddygon cymwysedig fydd yn helpu i ddarparu gofal iechyd yn y dyfodol."
Ychwnaegodd
yr Athro Edmund Burke, is-ganghellor Prifysgol Bangor: "Wrth inni ddathlu 140 mlynedd o Brifysgol Bangor, mae lansio Ysgol Feddygol y Gogledd yn garreg filltir allweddol i'r brifysgol a'r rhanbarth."
"Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i addysg ragorol, i ymchwil arloesol, ac i fynd i'r afael ag anghenion gofal iechyd lleol. Ar y cyd â'n partneriaid, ry'n ni'n llunio dyfodol iachach drwy hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ein cymunedau."