Porthladd Rhydd Môn yn dechrau

Thursday, 23 January 2025 14:11

By Ystafell Newyddion MônFM X @lookoutwales2

LC

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod statws arbennig newydd Porthladd Rhydd Ynys Môn bellach yn fyw.

Mae Ynys Môn yn ymuno â'r porthladd rhydd arall yng Nghymru, Porthladd Rhydd Celtaidd Port Talbot ac Aberdaugleddau, a aeth yn fyw ym mis Tachwedd.

Bydd y porthladdoedd rhydd yn ffurfio parthau arbennig ar gyfer busnes gyda manteision o ran treth a thollau, a chyllid ar gyfer prosiectau seilwaith a sgiliau allweddol.

Mae porthladdoedd rhydd Cymru yn nodedig am eu bod yn cynnwys telerau gwaith teg, cydnabyddiaeth gan undebau ac mae awdurdodau lleol yn rhan o’u gwaith.

Nod porthladdoedd rhydd Cymru yw denu £6.5 biliwn mewn buddsoddiad a chreu tua 17,000 o swyddi. 

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan: "Dyma newyddion gwych i Ynys Môn, sydd i'w groesawu'n arbennig yn dilyn y difrod diweddar yn sgil y stormydd a darodd Caergybi."

"Un o'r blaenoriaethau a nodais wrth ddod yn Brif Weinidog Cymru oedd creu swyddi a thwf gwyrdd. Rwy'n falch y bydd ein porthladdoedd rhydd yng Nghymru nid yn unig yn denu buddsoddiad a swyddi, ac yn wahanol i rai eraill, maent wedi ymrwymo i hyrwyddo gwaith teg a chynaliadwyedd amgylcheddol."

Nod y porthladdoedd rhydd Cymru yw sbarduno adfywiad economaidd a chreu swyddi o ansawdd uchel. Maent hefyd yn anelu at ddatblygu’n hybiau cenedlaethol ar gyfer buddsoddiad a masnach byd-eang ar draws yr economi ac ysgogi arloesedd.

Mae porthladdoedd rhydd Cymru yn canolbwyntio ar hybu cryfderau penodol pob ardal, gan fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd yno o ran ynni’r gwynt ar y môr ac ynni'r môr, gweithgynhyrchu uwch ac arloesedd.

Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn yn cynnwys safleoedd ym Mharc Ffyniant a Pharc Cybi yng Nghaergybi, M-Sparc ger Gaerwen a dau safle tir llwyd ar Ystad Ddiwydiannol Llangefni.

Dywedodd Ysgrifennydd dros yr Economi, Rebecca Evans: "Dyma ddatblygiad sylweddol a fydd yn cefnogi twf parhaus a swyddi o ansawdd uchel ar draws Gogledd Cymru."

"Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i gwblhau achosion busnes y porthladdoedd rhydd, a fydd yn arwain at hyd at £25m o gyfalaf sbarduno ar gyfer pob porthladd rhydd wrth iddynt weithredu'n llawn."

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens: "Mae hwn yn ddiwrnod gwych i Gymru gyda’n dau borthladd rhydd bellach ar agor i fusnesau ac yn dechrau ar y gwaith o sbarduno buddsoddiad, cyfleoedd a thwf."

“Bydd ein buddsoddiad o £26 miliwn ym mhorthladd rhydd Ynys Môn yn helpu i yrru ein gweledigaeth ar gyfer y rhan hon o Gymru, gan ddod â miloedd o swyddi newydd a hybu diwydiannau’r dyfodol.”

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'