Porthladd Caergybi: ymchwiliad y Senedd yn dechrau

Thursday, 30 January 2025 11:37

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi lansio ymchwiliad i ddifrod diweddar gan stormydd, a chau Porthladd Caergybi.

Bydd y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn galw ar sefydliadau sy'n ymwneud â rheoli'r porthladd i ddeall beth ddigwyddodd ac i ystyried a oes modd atal hyn rhag digwydd eto.

Y porthladd, a weithredir gan Stena Line yw'r ail borthladd fferi prysuraf yn y DU, ac mae'n gysylltiad allweddol rhwng Iwerddon a'r DU.

Dywedodd Andrew RT Davies AS, cadeirydd y pwyllgor: "Ni ddylid diystyru effaith cau Porthladd Caergybi gan mai dyma'r ail borthladd teithwyr mwyaf yn y DU ac mae canlyniadau ei gau wedi effeithio'n fawr ar yr economi leol, yn ogystal â'r economi genedlaethol."

"Mae ein hymchwiliad yn gofyn am atebion gan y rhai sy'n gyfrifol am ein seilwaith hanfodol. Effeithiwyd yn ddifrifol ar yr holl deithwyr, busnesau a chymunedau lleol yn ystod cyfnod prysur iawn, ac mae'n bwysig sicrhau ein bod yn dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol."

"Pan fydd digwyddiadau fel hyn yn taro, mae'n hanfodol bod y dulliau cyfathrebu â'r cyhoedd a busnesau yn glir, yn onest ac yn amserol."

"Mae stormydd fel Darragh yn taro'r DU yn fwyfwy aml, ac felly mae'n bwysig ein bod yn barod ac yn wydn, a'n bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau aflonyddwch sylweddol."

Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar:

  • Achosion: y ffactorau sy'n cyfrannu at ddifrifoldeb y difrod.
  • Cyfathrebu: y dull o gyfathrebu yn ystod y storm, ac wedyn, gyda defnyddwyr porthladdoedd, cymunedau a busnesau yn ogystal â rhwng llywodraethau.
  • Adfer: cyflymder yr ymateb wrth asesu ac atgyweirio'r difrod, gan gynnwys y cymorth a ddarperir gan y llywodraeth.
  • Effaith: effaith y cau, yn ogystal â graddau'r camau a gymerwyd i liniaru'r effaith, a'u heffeithiolrwydd.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Steffan Crocker

    7:00pm - 9:00pm

    Sioe llawn dop yma ar MônFM. Bydd Steffan yma i'ch diddanu chi am ddwy awr.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'