Porthladd Caergybi: ymateb Llywodraeth Cymru yn 'rhy araf'

Thursday, 3 April 2025 00:05

Cyngor Môn

Roedd gwerth y fasnach oedd yn mynd drwy Gaergybi fis Rhagfyr diwethaf bron hanner biliwn yn llai na'r flwyddyn flaenorol, fel y dywedwyd wrth un o bwyllgorau'r Senedd gan Lywodraeth Cymru.

Bu pwyllgor yr economi a masnach y Senedd yn feirniadol o ymateb Llywodraeth Cymru i gau'r porthladd y llynedd, ac mae'n credu mai hwn oedd un o'r prif ffactorau o ran colli masnach.

Mynegodd yr aelodau siom ynghylch y "diffyg cyflymder a brys" gan Lywodraeth Cymru wrth ymateb i gau porthladd fferi prysuraf Cymru.

Ar ôl cynnal ymchwiliad a chasglu tystiolaeth gan sefydliadau allweddol sy'n ymwneud â'r porthladd, mae adroddiad y pwyllgor yn galw am 'adolygiad o'r gwersi a ddysgwyd' i Gaergybi, i fod yn barod ac yn wydn yn y dyfodol.

Dywedodd Andrew R T Davies AS, cadeirydd y pwyllgor: "Caergybi yw ail borthladd fferi prysuraf y DU ac fe wnaeth difrod a oedd yn ganlyniad storm fis Rhagfyr diwethaf, ar ôl rhagor na mis o fod ar gau, effeithio'n ddifrifol ar rai busnesau lleol."

"Clywsom am rai cwmnïau yn adrodd am golledion o ddegau o filoedd o bunnoedd."

"Rydym yn siomedig iawn gan y diffyg cyflymder a brys yn ymateb Llywodraeth Cymru i gau llwybr masnach Ewropeaidd hollbwysig."

"Cyfyngedig yw'r dystiolaeth rydym wedi'i gweld bod Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael yn ddigonol â'r problemau a achoswyd gan y cau."

"Gweithredu lleol a chydweithio rhwng porthladdoedd a rwystrodd i gau porthladd Caergybi rhag bod hyd yn oed yn waeth ar gyfer masnach Cymru a'r economi ehangach."

Yn ôl yr adroddiad, gafodd ei ryddhau ddydd Iau, nid yw'n glir i'r pwyllgor, a sefydliadau allweddol sy'n ymwneud â'r ymdrechion ymateb ac adfer, pa weinidog sy'n gyfrifol am ymateb Llywodraeth Cymru – efallai bod y dryswch hwn wedi gwaethygu problemau o ran yr ymateb i'r argyfwng hwn.

Mae'r pwyllgor yn argymell, mewn unrhyw ddigwyddiadau o'r raddfa neu'r cymhlethdod hwn yn y dyfodol, y dylai Llywodraeth Cymru gytuno ar weinidog arweiniol a fydd yn goruchwylio ac yn atebol am reoli'r ymateb.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ddiffyg brys wrth ymateb i geisiadau i gefnogi busnesau yr effeithiwyd arnynt, a dealltwriaeth gyfyngedig o sut mae cau yn effeithio ar y gweithlu lleol - mae'r pwyllgor am weld darlun cliriach o effeithiau colli swyddi ac oriau gwaith a gollwyd ar aelwydydd.

Ar gyfer y digwyddiad hwn, a digwyddiadau tebyg, dylai Llywodraeth Cymru ddeall yn well beth yw'r effaith ar weithwyr a busnesau, a phenderfynu ar fyrder pa gymorth ariannol a chymorth arall sydd ar gael i'r rhai yr effeithir arnynt gan unrhyw gau porthladdoedd.

Yn dilyn rhyddhau’r canfyddiadau cychwynnol, mae arweinydd Cyngor Môn wedi galw ar fusnesau lleol i dderbyn cymorth ariannol "rwan".

Dwyeddod y Cynghorydd Gary Pritchard: "Mae llawer o fusnesau yn dibynnu ar y traffig fferi ac adroddodd rhai bod masnach wedi gostwng 90%. Roedd eraill wedi colli degau o filoedd o bunnoedd ac mae 'na dal ofn yn bodoli bod llai o hyder yn hyfywedd a gwytnwch y porthladd."

"Mae'r busnesau hyn wedi aros yn ddigon hir am gymorth ariannol a byddwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru am gyllid yn dilyn casglu'r dystiolaeth bwysig yma."

Mae'r pwyllgor o'r farn bod Llywodraeth Cymru wedi dangos diffyg sylw i borthladdoedd a chludo nwyddau fel ei gilydd dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n pryderu ynghylch dargyfeirio masnach i fannau eraill.

Yn 2022, lansiodd y pwyllgor adroddiad, Cyfeiriad newydd ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, a ddarparodd argymhellion i Lywodraeth Cymru ar faterion cludo nwyddau, yn enwedig sut i fynd i'r afael â phrinder gyrwyr HGV a materion cysylltiedig â'r gadwyn gyflenwi.

Mae'r pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gyflymu ei gwaith i roi'r argymhellion yn yr adroddiad hwnnw ar waith, a chyflwyno strategaeth forol a phorthladdoedd, a chynllun cludo nwyddau, fel mater o frys.

Ychwanegodd Andrew RT Davies: "Mae'n amlwg nad oedd ymateb Llywodraeth Cymru yn dderbyniol – roedd yn rhy araf, a heb ei gydlynu. Gadawyd llawer o bobl yn y tywyllwch oherwydd nad oedd y cyfathrebu'n ddigon da - rhaid i hyn beidio â digwydd eto."

"Mae porthladdoedd a nwyddau'n hanfodol i'n heconomi, ac mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu'r meysydd hyn ers mwy na digon o amser."

"Cawsom addewid o bolisïau newydd erbyn mis Rhagfyr diwethaf, ond mae hyn bellach wedi'i ohirio tan y flwyddyn nesaf – nid yw hyn yn ddigon da, mae angen gweithredu nawr."

Ym mis Ionawr, Ken Skates, cyhoeddodd ysgrifennydd dros drafnidiaeth y byddai "tasglu aml-randdeiliaid dan arweiniad Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer dyfodol Caergybi" yn cael ei sefydlu.

Cynhailwyd cyfarfod cyntaf yr tasglu yr wythnos diwethaf yn Gaerwen rhwng llwydodraethau Cymru ac Iwerddon.

Bydd y pwyllgor yn monitro gwaith y tasglu hwn yn agos, ac mae'n credu y dylai ei amcanion gynnwys:

  • Deall y ffactorau a achosodd y digwyddiadau yng Nghaergybi, i gael gwybod a oes unrhyw oblygiadau i'r sector porthladdoedd yn ehangach neu bolisïau porthladdoedd;
  • Sicrhau diogelwch y Porthladd yn y dyfodol;
  • Gwella cyfleusterau i yrwyr sy'n mynd drwy Gaergybi;
  • Asesu gwydnwch y cysylltiadau trafnidiaeth i Gaergybi, a'u gwella, gan gynnwys ystyried cysylltiadau rheilffordd;
  • Cefnogi hyfywedd hirdymor y Porthladd ac osgoi dargyfeirio masnach; a
  • Sicrhau bod cynllun wrth gefn cryf ar gyfer unrhyw gyfnodau cau yng Nghaergybi yn y dyfodol, a phorthladdoedd yng Nghymru yn gyffredinol. Yn benodol, dylai hyn gynnwys rheoli traffig, cyfathrebu, gweithredu llwybrau morol amgen a chymorth i fusnesau lleol.

Bydd nawr yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ymateb i adroddiad y pwyllgor.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'