Bydd Pont Menai yn ailagor yn llawn dros y gaeaf, gan ddechrau'r penwythnos hwn.
Mae cam cyntaf y gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau yn unol â'r amserlen, meddai Llywodraeth Cymru.
Bydd y bont grog yn ailagor toc wedi hanner nos ddydd Sadwrn a bydd y terfyn pwysau yn cynyddu o 7 tunnell a hanner i 40 tunnell.
Bydd oedi o bedwar mis cyn dechrau ar ail gam y gwaith ym mis Chwefror, gan gynnwys ailbeintio'r bont.
Ond yn ôl Ysgrifennydd Gogledd Cymru, ni fydd hynny'n effeithio ar yr amserlen ar gyfer pen-blwydd y bont yn 200 oed ym mis Ionawr 2026.
Dwyeddod Ken Skates: "Mae'r ffaith bod y gwaith ar y cam cyntaf wedi'i gwblhau yn newyddion gwych. Mae wedi bod yn gyfnod anodd, a hoffwn i gofnodi fy niolch i bawb y mae'r gwaith wedi effeithio arnyn nhw."
"Rydyn ni wedi gwrando ar safbwyntiau'r cymunedau lleol ac wedi penderfynu oedi cyn dechrau ar ail gam y gwaith er mwyn caniatáu i'r bont ailagor yn llawn dros gyfnod y gaeaf."
"Ond gallwch chi fod yn dawel eich meddwl na fydd yr oedi hwnnw'n effeithio ar 200 mlwyddiant y bont ym mis Ionawr 2026.”
Cafodd y bont ar gau ym mis Hydref 2022 oherwydd materion diogelwch difrifol, yn dilyn ymgynghori â pheirianwyr gan UK Highways.
Ers hynny, mae gwaith wedi'i wneud i ddisodli pob un o'r 168 o grogrodenni ar y bont.
Yn ôl gweinidogion, fe fydd ailagor y bont dros y gaeaf yn gwella cyfleoedd i fusnesau lleol, yn enwedig dros y Nadolig ac yn ac yn cadw Porthladd Caergybi yn weithredol am gyfnod hirach.
Bydd llwybr teithio arall ar gael os bydd tywydd garw (gwyntoedd cryfion), digwyddiadau ac argyfyngau yn effeithio ar Bont Britannia (yr A55). Bydd yn golygu hefyd y bydd cerbydau nwyddau trwm a cherbydau eraill yn cael croesi Afon Menai unwaith eto oherwydd y bydd y terfyn pwysau o 7.5 tunnell yn cael ei ddileu dros dro.
Bydd y cyfyngiadau presennol yn dychwelyd ym mis Chwefror pan fydd y gwaith yn ailddechrau, ond meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd y gwaith ar yr ail gam yn mynd rhagddo'n fwy hwylus ac yn fwy effeithlon, oherwydd y bydd y tywydd yn well."