Perthyn: grantiau cymunedol bach yn agor

Tuesday, 15 October 2024 23:15

By Ystaffell Newyddion MônFM

LC

Mae grwpiau cymunedol yn Môn a Gwynedd yn cael eu hannog i wneud cais am arian i helpu'r Gymraeg ffynnu.

Ers dechrau yn 2022, mae 47 o brosiectau cymunedol wedi sicrhau cyllid bach gan Proseict Perthyn, sy'n targedu cymunedau Cymraeg eu hiaith yn y Gogledd a'r Gorllewin.

Gall grwpiau cymunedol wneud cais am grant bach i'w helpu i sefydlu menter gymdeithasol newydd, a/neu brosiectau tai a arweinir gan y gymuned.

Nod y grant yw creu cyfleoedd economaidd, darparu tai fforddiadwy, a chefnogi cymunedau Cymraeg eu hiaith sydd â nifer uchel o ail gartrefi.

Dyma'r bedwaredd rownd y cynllun ac mae grantiau o hyd at £10,000 ar gael.

Dwyeddod Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: "Mae grantiau Prosiect Perthyn yn gyfle gwych i helpu cymunedau i wireddu eu syniadau."

"Maent wedi helpu grwpiau cymunedol i brynu a rhedeg eu tafarndai lleol fel yn Llanuwchllyn a Thafarn Dyffryn Aeron. Mae Perthyn hefyd wedi helpu Menter y Tŵr ym Mhwllheli i brynu a rhedeg gwesty sy'n eiddo i'r gymuned, yn ogystal â chefnogi prosiect ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned fel Egni Trefin."

"Gall grantiau bach wneud gwahaniaeth mawr yn eich cymuned leol, felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â syniadau ar gyfer prosiectau er budd eu cymuned ac i gefnogi'r Gymraeg i wneud cais."

Gweinyddir y cynllun grant gan Cwmpas ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Jocelle Lovell, cyfarwyddwr cymunedau cynhwysol gan Cwmpas: "Mae Perthyn yn gweithio gyda chymunedau i ddod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â diffyg tai fforddiadwy, gwarchod asedau cymunedol a chreu cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol newydd."

"Mae gweinyddu cynllun peilot grantiau bach ar gyfer y cymunedau er mwyn helpu i feithrin gallu lleol a sbarduno eu syniadau o ran busnes a thai wedi bod yn hwb gwirioneddol i ni."

"Rydym yn edrych ymlaen at weld y syniadau'n datblygu ac at weithio gyda rhagor o gymunedau dros y misoedd nesaf."

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais am grant, ewch i wefan Cwmpas. Bydd ceisiadau ar gyfer y rownd ddiweddaraf yn cau ddydd Sul 3 Tachwedd.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'