Mae cynllun peilot newydd yn annog disgyblion ysgol i ystyried gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd Cyngor Môn yn arwain y prosiect peilot, sef y cyntaf o'i fath yng Nghymru, mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau.
Mae'r prosiect yn gyfle i ddisgyblion gael golwg manwl ar y sector cyn ystyried eu hopsiynau ar ddiwedd blwyddyn 9.
Bydd digwyddiadau rhyngweithiol yn cynnwys sgyrsiau ysbrydoledig, gweithgareddau a phrofiadau ymarferol fydd yn cael eu cynnig mewn ysgolion uwchradd ym Môn cyn diwedd y flwyddyn, gan ddechrau yn Ysgol Gyfun Llangefni dydd Mercher.
Dywedodd y cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Fôn Roberts: "Mae'r prosiect hwn yn gyfle amhrisiadwy i hyrwyddo cyfleoedd gwaith fydd ar gael yn y sector hollbwysig hwn yn y dyfodol ymhlith pobl ifanc".
"Mae recriwtio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi bod yn heriol. Ar Ynys Môn, rydym bob amser yn ceisio dod o hyd i ffyrdd arloesol i gynyddu nifer y bobl sy'n ymrwymo i yrfa werth chweil o fewn y sector, ac mae'r prosiect hwn yn enghraifft arall o hyn."
Yn ystod y digwyddiadau, bydd nifer o weithgareddau byr a sgyrsiau'n cael eu cynnal gan gynrychiolwyr sy'n ymwneud â sector iechyd a gofal ym Môn.
Bydd disgyblion yn gallu cwrdd â staff sy'n gweithio yn y gwasanaethau cymdeithasol, iechyd a hamdden, eu holi a dysgu am eu swyddi gwahanol.
Yn ogystal â gwella ymwybyddiaeth o gyfleoedd gwaith yn y sector hwn, bydd y rhaglen yn rhoi trosolwg a phrofiadau ymarferol i ddisgyblion er mwyn cefnogi gwybodaeth ddamcaniaethol a cheisio newid eu barn am y sector.
Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Roberts, sy'n dal portffolio Gwasanaethau Oedolion y cyngor: "Fel sy'n cael ei nodi yng Nghynllun y Cyngor (2023 - 2028), mae prosiectau arloesol fel hyn yn cefnogi ein gweledigaeth i greu Ynys Môn iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu."
"Gall gyrfa yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol fod yn werth chweil. Mae sawl llwybr gyrfaol i mewn i'r sector - dod yn weithwyr gofal proffesiynol, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol a rheolwyr."
"Bydd y prosiect hwn yn codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd hyn ymhlith disgyblion blwyddyn 9 ledled yr Ynys".
Mae'r peilot yn cael ei redeg gyda Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, Gofalwn Cymru a Bwrdd Gweithlu Gogledd Cymru.