
Bydd Cyngor Gwynedd yn cynnig parcio ceir am ddim yn ei holl feysydd parcio ar gyfer Nadolig.
Bydd ar gael o 11yb bob dydd rhwng dydd Sadwrn 14eg a dydd Gwener 27 Rhagfyr.
Meddai'r Cynghorydd Craig ab Iago, aelod cabinet dros amgylchedd: "Rydym yn gobeithio y bydd trigolion Gwynedd a thu hwnt yn cymryd mantais o’r cynnig yma gan gefnogi’r amrywiaeth o fusnesau gwych sydd gan ein sir i’w gynnig."
Bydd ffioedd yn ail-gychwyn o dydd Sadwrn 28 Rhagfyr - ac bydd arwydd ar bob peiriant talu ac arddangos ym mesydd parcio cyhoeddus y cyngor sir.
Mae lleoliad holl feysydd parcio ar gael ar gwefan Cyngor Gwynedd.