Niwbwrch: gweithdai yn helpu i gadw crefft pentref yn fyw

Sunday, 6 October 2024 22:04

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Mae crefft a sefydlwyd cannoedd o flynyddoedd yn ôl yn cael ei chadw’n fyw yng nghymuned Niwbwrch lle bu unwaith yn ddiwydiant cartref llewyrchus.

Mae moresg, a ddefnyddiwyd yn draddodiadol i wneud matiau a rhaffau, wedi cael ei gasglu o Warchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch, Ynys Môn, a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a’i roi i grŵp cymunedol Llyn Parc Mawr.

Mae'r grŵp yn gweithio gyda Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Ynys Môn i gynnal gweithdai cyhoeddus i addysgu a chadw technegau gwehyddu gan greu matiau, bowlenni, cynwysyddion, ysgubau a basgedi.

Dywedodd Dee Walker o Dysgu yn yr Awyr Agored: “Mae cynnal gweithdai a rhannu’r wybodaeth hon yn ffordd dda o ddod i ddeall a chymryd rhan yn y grefft hon gan hefyd werthfawrogi a chysylltu â hanes lleol Niwbwrch."

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig dathlu’r hanes hwn ac i gadw traddodiadau’n fyw, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu gweithio gyda CNC i wneud hyn.”

Mae moresg wedi cael ei ddefnyddio fel deunydd naturiol ar gyfer toi a gwelyau anifeiliaid yn y gorffennol, ond nid yw’n hysbys pryd y dechreuwyd ei ddefnyddio yn y lle cyntaf.

Ond credir fod pobl yn creu eitemau crefft yn y 1600au o leiaf, pan gyflwynodd y Frenhines Elizabeth I gyfyngiadau ar gasglu moresg i atal tiroedd maenoraidd rhag cael eu gorchuddio â thywod.

Fodd bynnag, parhaodd y diwydiant i chwarae rhan bwysig ym mywyd y pentref, gyda’r gwehyddion yn cynhyrchu gorchuddion ar gyfer teisi gwair, matiau, rhaffau, ysgubau a basgedi at ddefnydd domestig yn ogystal ag ar gyfer y diwydiannau amaethyddol, pysgota a mwyngloddio.

Parhaodd hyn tan ddechrau’r 20fed ganrif wrth i ddiwydiannu a chynhyrchu nwyddau mewn ffatrïoedd ddod yn fwy poblogaidd.

Yn draddodiadol, roedd y moresg yn cael ei gasglu gan ddefnyddio cryman â handlen fach, gyda moresg dwy flwydd oed yn cael ei ystyried yn fwyaf addas ar gyfer gweithgynhyrchu.

Mae’n tyfu ar dywod symudol mewn tuswau trwchus a phigog, ac mae’r gwreiddiau’n helpu i ddal y tywod a chreu’r twyni yn Niwbwrch, gan eu galluogi i ddatblygu a chynnig cartref i rywogaethau eraill megis madfall y tywod ac ystod o bryfed arbennig.

Casglwyd y glaswellt a ddefnyddiwyd yn y gweithdai dan drwydded gan CNC gan ddilyn yr holl fesurau cadwraeth perthnasol.

Dywedodd Graham Williams o dîm rheoli tir CNC yn y Gogledd Orllewin: "Mae casglu moresg ar gyfer y prosiect hwn yn parhau â’r traddodiad hanesyddol o ddefnyddio’r glaswellt ar gyfer gwneud matiau a rhaffau masnachol, rhywbeth a oedd yn rhan annatod o wead y gymuned."

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu gweithio gyda’r ddau grŵp hyn ar y prosiect hwn i helpu i warchod y sgil draddodiadol hon sy’n rhan mor bwysig o hanes y pentref.”

Bydd cyfranogwyr Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Ynys Môn yn arddangos nifer o eitemau wedi’u creu gan ddefnyddio moresg fel rhan arddangosfa "Basgedwaith: Achub, Adfywio, Cadw" yng Nghanolfan Grefft Rhuthun tan mis Ionawr.

Mae’r prosiect Twyni Byw a ariennir gan yr UE, a reolir gan CNC, hefyd wedi cefnogi ailargraffiad llyfryn dwyieithog, The Marram Weavers of Newborough, gan yr awdur Robert Williams, sy’n rhoi manylion a lluniau hanesyddol o’r gwehyddion a’u cynnyrch.

Mae copïau o’r llyfryn ar gael i’w benthyca mewn llyfrgelloedd ar draws Ynys Môn a gallwch gael copi eich hun o swyddfa CNC Maes y Ffynnon ym Mangor.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM Sport with Ryan McKean

    2:00pm - 5:00pm

    Ryan McKean keeps you up to date with all the latest football scores across North Wales

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'