Nifer uchaf o deithwyr ar fysiau Sherpa

Wednesday, 25 September 2024 14:08

By Ystafell Newyddion MônFM

Trafnidieath Cymru

Am yr tro cyntaf, mae gwasanaeth bws Sherpa'r Wyddfa wedi denu mwy na 70,000 o deithwyr mewn mis.

Roedd 72,296 o deithwyr yn defnyddio'r rhwydwaith yn ardal Eryri yn ystod mis Awst

Ers i rwydwaith Sherpa gael ei ail-ddylunio a lansio'r gwasanaethau ar eu newydd wedd yn swyddogol yn 2022, mae nifer y teithwyr wedi cynyddu'n gyson.

Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae’r gwasanaethau wedi gweld cynnydd o 79% yn nifer y teithwyr o gymharu â’r cyfnod cyn Covid.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, aelod cabinet amgylchedd y cyngor: "Fe gafodd y gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa eu cynllunio’n ofalus yn ystod y broses ail-ddylunio i sicrhau ei fod yn cynnig teithiau dyddiol hanfodol i bobl leol ynghyd ag adnodd teithio pwysig i bobl sy’n ymweld â’r ardal."

"Gan gydweithio â nifer o bartneriaid, rydym yn falch iawn o gadarnhau bod y Sherpa yn parhau i gynnig rhwydwaith ardderchog o wasanaethau bws i gludo pobl o amgylch ardal Eryri mewn modd cynaliadwy."

"Mae darparu rhwydwaith bysiau cyfleus, dibynadwy a fforddiadwy yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd ac yn ddiweddar rydym wedi cwblhau adolygiad sirol o’n gwasanaethau gyda’r bwriad o ddarparu’r gwasanaethau gorau posib gyda’r adnoddau sydd ar gael."

"Mae’r niferoedd teithwyr diweddaraf ar gyfer y Sherpa yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn cydweithio â phartneriaid ac yn cynllunio llwybrau sy’n diwallu anghenion pobl leol a’r rhai sy’n ymweld â’r ardal."

"Hoffem annog y rhai sy’n gallu teithio ar fws i wneud hynny, boed hynny’n rheolaidd neu’n achlysurol. Mae hyn yn helpu i wneud gwasanaethau bysiau lleol mor gynaliadwy â phosibl o sail ariannol ac amgylcheddol yn ogystal â chefnogi’r achos dros welliannau pellach."

Yn dilyn adolygiad helaeth o rwydwaith bysiau gan y cyngor, mae amserlenni newydd wedi eu cyflwyno lle bynnag y bo modd gyda phrisiau tocynnau safonol yn seiliedig ar bellteroedd i gynnig gwasanaeth tecach ar draws Gwynedd.

Mae'r cyngor hefyd wedi gweithio'n galed i sicrhau gwasanaethau integredig sy'n helpu i annog mwy o bobl i adael y car gartref a gwneud y gorau o'r gwasanaethau bws yn y sir.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'