Mae Dyfrig Siencyn wedi ymddiswyddo fel arweinydd Cyngor Gwynedd ar ôl saith mlynedd.
Mae’n dilyn ffrae dros sylwadau a wnaed mewn cyfweliad i honiadau newydd yn erbyn y pedoffeil Neil Foden.
Bydd Nia Jeffreys, dirprwy arweinydd y cyngor, yn cymryd ei le fel arweinydd dros dro.
Cafodd Foden, cyn-brifathro Ysgol Friars ac Ysgol Dyffryn Ogwen, ei garcharu am 17 mlynedd am gam-drin pedwar o blant rhwng 2019 a 2023.
Mewn datganiad brynhawn Iau, dywedodd Mr Siencyn: "Rhaid i mi gydnabod fod y cyfnod mwyaf diweddar hwn – a’r wybodaeth erchyll sydd wedi dod i’r amlwg am weithredoedd anfaddeuol y pedoffeil Neil Foden – wedi bod y mwyaf heriol i’r cyngor fel awdurdod ac i minnau fel arweinydd."
"Mae’n ddrwg calon gen i am y boen mae’r dioddefwyr a’u teuluoedd wedi mynd drwyddo oherwydd y dyn hwn, ac maent yn parhau i fod ar flaen fy meddwl."
Mae Mr Siencyn hefyd wedi ymddiswyddo fel arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor sir.
Mae wedi amddiffyn ei record fel arweinydd y cyngor, gan ddweud: "Edrychaf yn ôl gyda balchder ar y gwaith sydd wedi ei wneud yma yng Nghyngor Gwynedd dros y saith mlynedd diwethaf mewn nifer o feysydd."
"Yn benodol, rydym wedi arloesi yn ein gwaith i sicrhau cartrefi i bobl leol a rheoli ail gartrefi o fewn y sir; rydym wedi buddsoddi yn sylweddol mewn adeiladau ysgolion; gwelwyd hefyd sicrhau statws UNESCO i’n ardaloedd llechi, sydd wedi arwain at ddenu arian sylweddol fydd yn dod a llewyrch newydd i’r cymunedau hyn."
"Mae’n bwysig cofio hefyd y gwaith arwrol wnaed gan fyddin o staff o adrannau ardraws y Cyngor, partneriaid o’r trydydd sector, gwirfoddolwyr a chymunedau i gefnogi pobl Gwynedd drwy’r argyfwng Covid."
"Rwyf hefyd yn falch fod Cyngor Gwynedd wedi cymryd camau cadarn i amddiffyn y bobl mwyaf bregus rhag effeithiau creulon yr argyfwng costau byw tra’n amddiffyn gwasanaethau allweddol rhag y don ar ôl ton o doriadau yn ein cyllidebau."
Mae Mr Siencyn hefyd yn ymddiswyddo fel cadeirydd Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru, yr is-grŵp cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac fel cyd-gadeirydd Fforwm Gwledig Cymru.
Bydd aelodau etholedig yn dewis arweinydd newydd mewn cyfarfod o’r cyngor llawn maes o law.
Ychwanegodd y Cyngorhydd Beca Roberts, cadeirydd Cyngor Gwynedd: "Hoffwn dalu teyrnged i’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn am arwain y cyngor ers 2017 ac am fod yn lais cryf a chyson dros gymunedau Cymraeg a gwledig yn rhanbarthol ac yn genedlaethol."
"Diolch iddo am ei gyfeillgarwch, ei brofiad a’i arweiniad cadarn dros y blynyddoedd. Rwyf yn siŵr bydd ganddo gyfraniad pellach i’w wneud i waith y cyngor ac i fywyd cyhoeddus Cymru i’r dyfodol."