Nant y Pandy: gwaith ar lwybrau newydd i ddechrau

Friday, 8 November 2024 02:43

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Bydd gwaith ar lwybrau newydd mewn gwarchodfa natur yn Llangefni yn dechrau wythnos nesaf.

Mae Cyngor Ynys Môn wedi sicrhau cyllid i amnewid y llwybr pren presennol yng ngwarchodfa Nant y Pandy.

Bydd y llwybrau newydd wedi eu gwneud o blastig wedi’i ailgylchu o ffynonellau cynaliadwy yn bennaf gan sicrhau y bydd yn para’n llawer hirach na’r pren a ddefnyddiwyd, ac a gafodd ei fwynhau gan lawer, dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Bydd y gwaith yn cymryd chwe mis i'w gwblhau a bydd rhan o'r llwybr pren yn cau i'r cyhoedd o ddydd Mawrth (12 Tachwedd).

Dwyeddod arweinydd y cyngor, Gary Pritchard: "Mae Nant y Pandy yn adnodd cymunedol gwerthfawr sy’n cael ei werthfawrogi gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd."

"Rydw i’n ddiolchgar iawn i’n tîm cefn gwlad ac AHNE (ardal o harddwch naturiol eithriadol) am sicrhau’r cyllid hanfodol yma er mwyn gallu darparu llwybr newydd sy’n golygu y gall yr hafan hon i fywyd gwyllt barhau i gael ei mwynhau gan y cyhoedd am ddegawdau i ddod."

Bydd y prosiect yn dechrau gyda gwaith rheoli coed ac gwaith archwilio terfynol, cyn dechrau tynnu’r llwybrau pren presennol.

Bydd rhan o lwybr sy’n arwain o faes parcio Eglwys St Cyngar wedi cau tra bydd y llwybrau pren presennol yn cael eu tynnu.

Bydd y llwybr pren o Faes Parcio’r Orsaf i Lyn Pwmp ac i fyny at y B5109 (Ffordd Cildwrn) yn parhau ar agor yn ystod camau cynnar y gwaith.

Gellir dal cael mynediad i’r safle drwy lwybr beics Lôn Las Cefni sy’n parhau ar agor ac ardal Coed Smyrna a fydd hefyd yn parhau ar gael o’r llwybr beicio.

Ni fydd y gwaith yn effeithio ar y digwyddiad Park Run wythnosol a gynhelir yng ngwarchodfa Nant y Pandy.

Ond yn ôl y cyngor, fe fydd gwaith i osod y llwybr pren newydd yn cymryd amser, a fydd yn effeithio ar ymwelwyr cyson â'r warchodfa. Rhagwelir y bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn mis Ebrill.

Mae’r proseict hefyd wedi eu croesawu gan gan y tri chynghorydd Plaid Cymru sy’n cynrychioli Canolbarth Môn.

Dywedodd y Cyng Dylan Rees: "Mae Nant y Pandy yn cael ei drysori fel rhan o’n cymuned leol, a bydd y llwybr newydd o blastig wedi'i ailgylchu yn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn hygyrch a'n rhoi pleser am flynyddoedd i ddod."

Dywedodd y Cyng Non Dafydd: "Bydd cyfnewid yr hen lwybr pren am strwythur plastig wedi'i ailgylchu yn welliant sylweddol i bawb sy'n mwynhau ymweld â Nant y Pandy. Bydd yn cynnig llwybr troed llawer mwy gwydn ar gyfer ymwelwyr tra hefyd yn cefnogi ein mentrau gwyrdd."

Ychwanegodd y Cyng Paul Lewis: “Edrychaf ymlaen at weld y gwaith hwn yn darparu gwell llwybrau yn Nant y Pandy gan sicrhau ei fod yn parhau’n adnodd cymunedol ac yn atyniad ar gyfer pobl Llangefni, Ynys Môn ac ymwelwyr.”

Cafwyd cyllid ar gyfer y prosiect gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Ynys Môn.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'