Y penwythnos hwn bydd Melin Llynnon yn ailagor i'r cyhoedd yn dilyn gwaith adfer.
Bydd y felin wynt, sydd bellach yn un o atyniadau gorau Ynys Môn – sy’n cael ei adnabod am ei Mônuts - yn cael ei agor yn swyddogol ddydd Sadwrn (28 Medi) pan fydd y safle’n cael ei drosglwyddo i Richard Holt.
Bydd yr elw a wneir o’r digwyddiad yn mynd tuag at apêl Rhyd y Llan ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, sy’n cael ei chynnal ym Môn yn 2026.
Dywedodd Richard: "Yn ôl yn 2019, mentrodd fy nheulu a minnau er mwyn ceisio cadw Melin Llynon ar agor am y 25 mlynedd nesaf. Ar ôl darganfod nad oedd y felin bellach yn weithredol, nid oedd dyfodol y felin yn edrych yn obeithiol."
"Fodd bynnag, bu Cyngor Ynys Môn gydnabod pwysigrwydd ei dreftadaeth a chamu mewn i helpu. Bellach, mae’r fraint gennym o fod yn gyfrifol am y felin olaf yng Nghymru sy’n gweithio ac mae dyletswydd arnom i’w chadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol."
"Roedd hi hefyd yn fraint gallu cynnig swydd i Lloyd Jones, y melinydd a oedd wedi gweithio yma yn flaenorol hyd at 2016. Rydym bellach yn hyfforddi melinyddion fel prentisiaid ac yn gobeithio creu nifer mwy o gyfleoedd am swyddi yn y dyfodol."
Roedd Melin Llynon yn cael ei reoli gan y cyngor sir fel un o brif atyniadau twristiaeth yr ynys tan 2019. Erbyn hynny, roedd y felin angen ei hadnewyddu er mwyn sicrhau bod staff ac ymwelwyr yn ddiogel wrth symud ymlaen.
Cytunodd y cyngor i wneud yr atgyweiriadau gofynnol er mwyn cynnal statws y felin fel yr ‘unig felin weithredol yng Nghymru’.
Rhwng 2022 a 2023, cwblhaodd dau gwmni adeiladuyr holl waith atgyweirio fel rhan o raglen adfywio Gogledd Ynys Môn.
Cwblhawyd y gwaith heb unrhyw oblygiadau i dreth dalwyr Ynys Môn gan fod cyllid wedi’i ddarparu gan sawl ffynhonnell wahanol – gan gynnwys £100k gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Bydd y felin yn cynhyrchu incwm ar gyfer y cyngor wrth symud ymlaen.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Haynes, cadeirydd y cyngor: "Bydd yn fraint cael bod yng nghwmni gwesteion yn Llanddeusant i ddathlu gorffennol a dyfodol yr adeilad eiconig ac unigryw hwn."
"Mae’r diwrnod arbennig hwn yn cynrychioli diwedd cyfnod arbennig o waith rhwng Mr Richard Holt a swyddogion y cyngor sir - gyda chefnogaeth ac arbenigedd Cadarn Consulting Engineers a Grosvenor Construction Ltd."
"Bydd dydd Sadwrn hefyd yn gyfle i ddangos ymrwymiad y cyngor sir i gydweithio - un o’n gwerthoedd craidd."
"Mae cydweithio wedi bod yn hanfodol yn ystod y prosiect hwn, sydd wedi llwyddo i warchod tamaid o hanes ac etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol - er bod llywodraeth leol yn wynebu heriau ariannol sylweddol."
"Drwy gydweithio, rydym wedi llwyddo i sicrhau bod Melin Llynon yn parhau fel yr unig felin wynt weithredol yng Nghymru. Diolch i’n staff a’n partneriaid - ac wrth gwrs Richard Holt - dymunaf bob llwyddiant iddo yn y dyfodol."
Fe adeiladwyd y felin rhwng 1775 a 1776 ar gyfer Herbert Jones fel rhan o Ystâd Llynon, a dros y blynyddoedd, cafodd ei gweithredu gan sawl cenhedlaeth o’r teulu, ac yna gan Robert Rowlands, oedd yn aelod o deulu enwog o felinwyr ar Ynys Môn.
Yn 1952 fe gafodd y felin ei rhestru fel Adeilad Rhestredig Gradd II*, gan mai hon oedd yr unig felin wynt ar Ynys Môn, allan o oddeutu 40, oedd yn weithredol yn yr 19eg Ganrif.
Gwerthwyd y felin i Gyngor Môn yn 1978, a bu i’r cyngor ymgymryd â gwaith atgyweirio sylweddol (wedi difrod storm) i ddod a’r felin yn ôl i gyflwr gweithredol a gafodd ei gwblhau yn 1983.
Bydd yr ailagoriad mawreddog hefyd yn nodi 40 mlynedd ers yr agoriad cychwynnol i'r cyhoedd ym 1984, gan Faer Môn ar y pryd, y Cynghorydd T.D. Roberts.
Ychwanegodd y Cyngorhydd Gary Pritchard, arweinydd newydd Cyngor Môn: "Mae gwaith sylweddol wedi’i gwblhau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf er mwyn gwarchod dyfodol Melin Llynon."
"Mae’r safle bellach yn nwylo Richard, a hynny gyda diolch i les 25 mlynedd, ac rydym yn dymuno’r gorau iddo gyda’r fenter newydd."
“Mae eisoes wedi bod yn gweithio’n ddiflino i godi proffil y safle, ac wedi troi Melin Llynon yn atyniad byd enwog."
"Mae’n wych gweld trigolyn lleol yn llwyddo gyda menter sydd hefyd wedi rhoi hwb i’r gymuned a’r ynys. Fel cyngor sir, rydym yn falch iawn o fod wedi gallu chwarae rhan fach yn cefnogi’r fenter, wrth i’r daith gyffrous hon barhau i’r dyfodol!"
Bydd Agoriad Swyddogol Melin Llynon yn cael ei gynnal rhwng 10am i 4pm.