Mae dyn yn ei 80au wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Llanfairpwll.
Roedd y pensiynwr yn gyrru Peugeot 107 coch pan fu mewn gwrthdrawiad a char pick-up ger garej Tyn Lon ar Ffordd Caergybi toc wedi 7yb ar ddydd Llun 18 Tachwedd.
Roedd y car codi wedi ei barcio ar adeg y gwrthdrawiad.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ond bu farw wythnos yn ddiweddarach.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r ddamwain i ddod ymlaen.
Dywedodd y Rhingyll Emlyn Hughes o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: "Dwi'n erfyn ar unrhyw un oedd wedi gweld y gwrthdrawiad a heb siarad efo ni eto, i wneud hynny cyn gynted â phosib."
"Rydym hefyd yn awyddus i ganfod gyrrwr, rydym yn credu oedd yn y Volvo 40 lliw arian oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall wedi'r gwrthdrawiad, gan ei fod yn bosib bod ganddyn nhw wybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy’r sgwrs we fyw, gan dyfynnu'r rhif cyfeirnod 24000975895.