Mae tri dyn wedi cael eu harestio yn dilyn cyrch cyffuriau mewn tŷ yn Llanberis.
Cafodd dwy gyllell a nifer o gyffuriau dosbarth A a B a amheuir eu hatafaelu o gyfeiriad Dol Eilian yn yr ardal fore Gwener.
Cafodd y chwiliad ei gynnal yn dilyn ymchwiliad gan swyddogion cymdogaeth.
Cafodd dyn lleol 20 oed, llanc 19 oed o Runcorn, a dyn 57 oed o Fangor eu harestio ar amheuaeth o fod hefo arf ymosodol a bod hefo cyffuriau dosbarth A a B yn eu meddiant hefo'r bwriad o'u cyflenwi.
Mae'r tri dyn yn parhau yn y ddalfa tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Ian Roberts: "Mae dileu cyffuriau o gymunedau cefn gwlad yn parhau bod yn ganolbwynt i'r tîm plismona lleol yng Ngogledd Gwynedd."
"Bydd y rhai sy'n dod â chyffuriau i'r ardal er mwyn manteisio ar ein trigolion mwyaf bregus ni'n cael eu hymlid ac fe ymdrinnir â nhw."
"Hefo gwybodaeth yn dod i law gan aelodau'r cyhoedd, gallwn ni barhau aflonyddu ar y cyflenwad o gyffuriau i'r ardal."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am droseddau cyffuriau yn yr ardal, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.