Lansio amnest cylyll 'Spectre'

Tuesday, 12 November 2024 12:13

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae amnest cyllyll yn cael ei gynnal ar draws Ynys Môn a Gwynedd yr wythnos hon.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch genedlaethol Spectre yn erbyn troseddau cyllyll, a gynhelir ddwywaith y flwyddyn.

Fel rhan o’r ymgyrch wythnos o hyd, mae'r heddlu yn rhoi’r cyfle i bobl ildio eu cyllyll mewn modd diogel mewn biniau arbennig yn cownteri blaen y gorsafoedd ym Mangor, Caernarfon a Chaergybi.

Eleni, mae sawl canolfan ailgylchu ar draws y rhanbarth yn cymryd rhan yn yr ymgyrch a gall cyllyll hefyd gael eu hildio yn y mannau canlynol:

  • Canolfan Ailgylchu Bangor, Bangor
  • Canolfan Ailgylchu Cibyn, Caernarfon
  • Canolfan Ailgylchu Harlech
  • Canolfan Ailgylchu Dolgellau
  • Canolfan Ailgylchu Gwalchmai, Caergybi
  • Canolfan Ailgylchu Penhesgyn, Porthaethwy

Mae swyddogion hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys ymgyrchoedd sydd wedi’u targedu, ymrwymiad cymunedol ac addysgu, er mwyn tawelu meddwl pobl ifanc eu bod yn fwy diogel pan nad ydynt yn cario cyllell.

Dywedodd y Prif Arolygydd Siobhan Edwards o hyb atal Heddlu Gogledd Cymru: "Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn ei wneud er mwyn atgyfnerthu'r neges fod cario cyllell yn annerbyniol. Ni ddaw daioni o gario un." 

“Mae bob achos sy'n cynnwys cyllell â chanlyniadau i bawb sydd ynghlwm. Mae hon yn broblem ‘da ni’n ei chymryd hi’n hynod ddifrifol."

"’Da ni’n gweithredu'n gadarn os ceir rhywun ym meddu cyllell neu arf miniog yn anghyfreithlon ar y strydoedd. Buaswn yn eich annog chi gymryd y cyfle hwn er mwyn gwaredu unrhyw arfau drwy fynd â nhw i unrhyw gownter blaen yn ein gorsafoedd heddlu."

“Mae cyllyll yn beryglus ac nid oes lle iddyn nhw ar strydoedd Gogledd Cymru. Tydy cario cyllell ddim yn eich cadw chi’n saff. ‘Da chi’n peryglu eich hun drwy gario cyllell a ‘da chi’n fwy tebygol o gael eich niweidio mewn digwyddiad treisgar."

"Tra mae achosion a gyrwyr troseddau cyllyll yn gymhleth, mae ymyrraeth gynnar a gosod mesurau er mwyn ymdrin â'r gwir achosion yn gwbl hanfodol. ‘Da ni’n ymroddedig i ymdrin yn gydweithredol â mynd i'r afael â throseddau cyllyll ledled gogledd Cymru. Gwnawn barhau'r gwaith llwyddiannus hefo’n partneriaid a chymunedau sydd eisoes yn bodoli.”

Ddaru ymgyrch ildio genedlaethol a lansiwyd gan y Swyddfa Gartref yn ddiweddar arwain at 20 cyllell sombi’n cael eu hildio i Heddlu Gogledd Cymru. Cynhaliwyd yr ymgyrch cyn gwaharddiad yr arfau a ddaeth i rym ym mis Medi.

Yn ystod yr wythnos Spectre, mae gan fân-werthwyr rôl bwysig i'w chwarae wrth ymdrin â throseddau cyllyll drwy sicrhau nad yw cyllyll yn cael eu defnyddio gan y bobl anghywir.

Yn ogystal â hyn, bydd swyddogion yn ymweld â siopau manwerthu lleol er mwyn cynnal "gwiriad gwybodaeth" hefo staff o ran gwerthu cyllyll a'r ymdriniaeth 'Herio ID 25'.

Ychwanegodd Siobhan Edwards: “Mae rhan fawr o waith y swyddogion allan mewn cymunedau ac ysgolion – yn addysgu pobl ifanc ar yr effeithiau mae cyllyll yn gallu eu cael nid yn unig ar unigolion, ond ar deuluoedd a chymunedau. Mi fydd y gwaith yma’n parhau drwy’r wythnos hefo’r Swyddogion Cymunedol Ysgolion yn ymweld â’r ysgolion."

"Dwi hefyd yn gofyn i rieni, gwarcheidwaid ac aelodau estynedig o'r teulu, er mwyn siarad hefo aelodau ifanc o'r teulu am droseddau cyllyll. Gallwch chwarae rôl hanfodol wrth eu hatal rhag bod ynghlwm. ‘Da ni’n eich cynghori i geisio siarad hefo nhw'n agored am y peryglon, ynghyd â'r canlyniadau newid bywyd sy'n deillio o gario cyllell."

"’Da ni’n ddiolchgar am y cymorth gan ein partneriaid a chymunedau. Hefo’n gilydd, fe wnawn barhau i weithio tuag at ddisodli cyllyll ac arfau peryglus a dod â'r rhai hynny sy'n gyfrifol, wrth eu cario a'u defnyddio, o flaen eu gwell."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Saturday Breakfast with Paul Hughes

    8:00am - 11:00am

    Join Paul as he kick-starts the weekend across Anglesey and Gwynedd! He's got great songs and local information to start your morning.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'