Mae heddlu yn ne Gwynedd wedi dechrau patrolau gyda'r nos ychwanegol fel rhan o ymgyrch newydd i daclo troseddau cefn gwlad.
Mae’n dilyn hysbysiadau diweddar o fyrgleriaethau yn yr ardal, yn targedu eiddo mewn ardaloedd cefn gwlad.
Mae patrolau hyd yn hyn wedi’u cynnal yn Llanwrin, Esgairgeiliog, Dinas Mawddwy, Corris a Dolgellau.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, nod Ymgyrch Mantel ydy darparu presenoldeb heddlu amlwg er mwyn tawelu meddwl y cymunedau ac atal troseddau cefn gwlad.
Dywedodd y Cwnstabl Gina Cinderby: "Fel mae’n tywyllu gyda’r nos unwaith eto, ‘da ni’n atgoffa cymunedau cefn gwlad i fod yn wyliadwrus ac i riportio unrhyw weithgareddau amheus."
“Sicrhewch fod pethau gwerthfawr dan glo, a chadwch eich goriadau ar wahân mewn lle diogel."
“Mae gosod CTCC a goleuadau synhwyro symudiad yn gallu atal lladron rhag targedu eiddo.”
Am mwy o wybodaeth am y menter Dangos y Drws i Drosedd, ewch i wefan Heddlu Gogledd Cymru.