Bydd Cyngor Gwynedd yn buddsoddi drsos £5.4 miliwn yn Hafan Pwllheli dros y ddeng mlynedd nesaf.
Ym mis Gorffennaf, cytunodd cynghorwyr i fabwysiadu cynllun asedau, sy’n rhoi’r golau gwyrdd i wariant cyfalaf fel gall y cyngor reoli ei "asedau hanfodol" – sy’n cynnwys Hafan Pwllheli - ac osgoi risg o fethu darparu gwasanaethau.
Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Yn ol y cyngor, mae Hafan a Harbwr Pwllheli yn denu dros £3 fmliwn i’r economi leol bob blwyddyn ac yn cefnogi dros 50 o swyddi llawn amser yn yr ardal.
Dywedodd y dirprwy arweinydd Nia Jeffreys: "Heb amheuaeth, mae gwario i gadw’r ddarpariaeth i fyny i’r safon ddisgwyliedig yn werth am arian, ac yn arbennig o bwysig i’r economi leol yn ardal Dwyfor."
"Gyda’r nifer o gwsmeriaid blynyddol wedi cynyddu ers 2019 mae’r dyfodol yn argoeli’n dda ar gyfer yr Hafan. Yn wir, mae’r staff y Hafan yn dweud wrthyf fod rhestr aros o fwy na 200 ar gyfer lle yn y marina ei hun ac mae 94% o angorfeydd yr harbwr allanol yn llawn."
Bydd rhan o'r arian yn cael ei wario ar garthu'r harbwr er mwyn sicrhau mynediad diogel i gychod.
Mae ceg yr harbwr, y sianel a’r harbwr mewnol ym Mhwllheli yn siltio a llenwi a llaid o ganlyniad i brosesau naturiol.
Heb wneud y gwaith, mae risg na fydd gan gychod hwylio mordwyo fynediad diogel mewn ac allan o’r harbwr dros y pump i ddeng mlynedd nesaf oherwydd cynnydd yn y gwaddod.
Bydd cyfran arall o’r arian yn cael ei glustnodi ar gyfer adnewyddu’r pontŵns sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes.
Mae'r cyngor wedi dyfynnu enghreifftiau wedi bod o marinas mewn rhannau eraill o’r wlad ble mae cychod wedi eu difrodi yn sylweddol yn ystod stormydd oherwydd diffygion mewn adnoddau.
Ychwanegodd y Cynghorydd Jeffreys: "Mae prif strwythurau'r Hafan, sef y pontŵns a’r stanciau, wedi pasio oes eu dyluniad a heb y buddsoddiad hwn i gynnal safonau dros y ddeng mlynedd nesaf, mae risg na fyddwn yn cadw i fyny efo’r farchnad a byddai cwsmeriaid yn gadael."
“Byddai hyn yn ergyd drom i economi ardal Pwllheli gyda swyddi sy’n dibynnu ar y diwydiant morwrol a’r diwydiant ymweld yn ehangach mewn perygl."
Mae’r buddsoddiad yn cydredeg â strategaeth hirdymor ar gyfer Hafan sydd wedi ei pharatoi yn ddiweddar.
Bu ymgynghorwyr yn cydgysylltu gyda rhanddeiliaid lleol i adfywio ardal y marina, yr harbwr a Chei’r Gogledd, ac yn dilyn y cyhoeddiad bydd ffrydiau gwaith a chyfleoedd masnachol yn cael eu gweithio ar er mwyn gwireddu elfennau o’r strategaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Jeffreys: "Y gwirionedd hefyd yw bod Cyngor Gwynedd yn gwneud elw o’r marina - yn ystod 2023/24 codwyd £700,000."
"Mae creu incwm drwy ffioedd yn rhan allweddol o’n strategaeth ariannol, ac yn gwarchod gwasanaethau hanfodol mae pobl Gwynedd yn dibynnu arnynt rhag cael eu torri fwy byth."
“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd harbyrau ar hyd arfordir Gwynedd, sydd yn bwysig i gymunedau lleol ac economi’r ardal”.