Gwynedd: ethol Nia Jeffreys yn arweinydd grŵp Plaid

Wednesday, 13 November 2024 23:40

By Ystafell Newyddion MônFM

Plaid Cymru Gwynedd

Mae Nia Jeffreys wedi ei hethol yn arweinydd newydd grŵp Plaid Cymru yng Nghyngor Gwynedd.

Cafodd ei hethol mewn cyfarfod o gynghorwyr y blaid yng Nghaernarfon nos Fercher.

Hi yw'r arweinydd cyntaf benywaidd grŵp y Blaid yng Ngwynedd ac mae’n gynghorydd sir dros ward Dwyrain Porthmadog ers 2017.

Mae Ms Jeffreys yn gwasanaethu fel arweinydd dros dro Cyngor Gwynedd, yn dilyn ymddiswyddiad Dyrfig Siencyn fis diwethaf.

Bydd y cyngor yn ethol arweinydd parhaol newydd mewn cyfarfod llawn ddydd Iau 5ed Rhagfyr.

Dwyeddod y Cynghorydd Jeffreys: "Mae hi’n fraint o’r mwyaf cael arwain grŵp y Blaid yng Ngwynedd. Dwi’n hynod ddiolchgar i aelodau Grŵp Plaid Cymru Gwynedd am yr ymddiriedaeth maent wedi ei ddangos ynof fi."

"Dwi’n edrych ymlaen at gydweithio â nhw a bwrw ati gyda’r gwaith dros drigolion Gwynedd...dwi’n edrych ymlaen at gael bwrw ati yn y rôl newydd gydag awch a brwdfrydedd."

Ymddiswyddodd Mr Siencyn fel arweinydd ym mis Hydref, yn dilyn gwrthodiad i ymddiheuro i'r dioddefwyr i'r pedoffeil Neil Foden mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C.

Fe ymddiswyddod pedwar aelod o'i gabinet, gan arwain at ymddiheuriad llawn gan Mr Siencyn.

Cafodd Foden, cyn-brifathro Ysgol Friars ac Ysgol Dyffryn Ogwen, ei garcharu am 17 mlynedd am gam-drin pedwar o blant rhwng 2019 a 2023.

Mewn datganid, ychwanegodd y Cynghorydd Jeffreys: "Hoffwn gymryd y cyfle i dalu gwrogaeth i’r cyn arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn am ei waith i lywodraeth leol dros y blynyddoedd diwethaf."

Mae grŵp Plaid Cymru yng Ngwynedd yn cynnwys 46 o gynghorwyr - y grŵp mwyaf ar y cyngor sir.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'