
Mae ymdrechion i ddarparu sesiynau gweithgareddau corfforol a phrydau bwyd iach am ddim i blant difreintiedig ar Ynys Môn wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol.
Yr wythnos ddiwethaf, derbyniodd staff o wasanaeth hamdden y Cyngor Sir, Môn Actif, ynghyd â chydweithwyr yn y tîm gofal plant a chwarae, Wobr #HolidaysMatter 2024 am eu prosiect gweithgareddau gwyliau rhagorol.
Cyflwynwyd y wobr gan Mark Lawrie OBE, prif weithredwr StreetGames, ynghyd ag athletwyr o Team GB, yn ystod seremoni wobrwyo flynyddol 'Sport for Development' StreetGames, ym mhencadlys Team GB yn Llundain.
Mae'r wobr yn cydnabod ymdrechion y Cyngor Sir i sicrhau bod pob plentyn yn gallu manteisio ar brofiadau iach, actif a gwerth chweil yn ystod gwyliau ysgol.
Mae StreetGames, partner cenedlaethol chwaraeon Cymru, yn cydweithio i sicrhau bod gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn agored i bobl ifanc mewn cymunedau incwm isel, a hynny drwy sefydliadau lleol ag enw da.
Mae Môn Actif yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i blant a phobl ifanc o bob oed a phob gallu ledled Ynys Môn. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r gwasanaeth wedi darparu 28 gwersyll gwyliau 'Fit and Fed', sydd wedi cefnogi mwy na 890 o blant a phobl ifanc drwy gynnig gweithgareddau am ddim, bwyd, byrbrydau a diodydd iach.
Yn ogystal, darparwyd gweithgareddau megis Diwrnod Hwyl i'r Teulu, Gwersylloedd Chwaraeon i'r Anabl, Diwrnodau Swim Safe Cymunedol a chyfleoedd i gymryd rhan mewn beicio mynydd, dringo, syrffio a padl-fyrddio y ystod gwyliau ysgol yn ddiweddar.
Mae Tîm Gofal Plant a Chwarae Ynys Môn wedi gweithio gyfochr â Môn Actif a phartneriaid gwahanol i wella darpariaeth ledled yr Ynys, a chreu effaith gadarnhaol ar y gymuned leol.
Dywedodd rheolwr datblygu Chwaraeon Môn Actif, Barry Edwards: "Mae'r cydweithio rhwng Môn Actif, Tîm Gofal Plant a Chwarae Ynys Môn, a'n partneriaid wedi ein galluogi i gynnig gweithgareddau amrywiol i blant yn ystod gwyliau'r ysgol, hyrwyddo eu hiechyd, llesiant a datblygu sgiliau."
"Rydym yn edrych ymlaen at barhau â'r gwaith hwn a chynnig mwy o gyfleoedd cyffrous yn y dyfodol."
Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans, deilydd portffolio hamdden, twristiaeth a morwrol: "Ein nod fel cyngor yw creu cymunedau iach, diogel a theg drwy amrywiaeth o wasanaethau ataliol, curadu a chefnogol."
"Mae'r gwaith gwych a wnaed gan Môn Actif a'n Tîm Gofal Plant a Chwarae wedi creu llu o gyfleoedd am ddim i bobl ifanc ledled yr ynys."
"Hoffwn longyfarch pawb ynghlwm, a diolch iddynt am eu hymdrechion i sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i gymryd rhan mewn profiadau iach, actif a gwerth chweil yn ystod gwyliau ysgol."