Gwaith lliniaru llifogydd yn cymryd cam ymlaen

Mae Cyngor Gwynedd wedi croesawu cyhoeddiad y bydd y sir yn derbyn cyfran gwerth £3.8 miliwn ar gyfer prosiectau lliniaru llifogydd, a fydd yn helpu i ddiogelu cymunedau, cartrefi a busnesau rhag y bygythiad parhaus o lifogydd.

Y cymunedau a fydd yn elwa o'r buddsoddiad fydd:

  • Bontnewydd – £2miliwn wedi ei glistnodi gan y Llywodraeth ar gyfer adeiladu amddiffynfeydd llifogydd ar Afon Beuno yn Nol Beuno ynghyd ag uwchraddio'r wal amddiffyn rhag llifogydd presennol ar Afon Gwyrfai ger Glanrafon. Bydd mesurau eraill yn cynnwys gwella'r draeniad dŵr wyneb. Disgwylir i'r gwaith ddechrau yn 2025 a'i gwblhau yn 2026.
  • Caernarfon – Gwaith i ddechrau ar 1 Ebrill ar brosiect £693,000 i uwchraddio sgrin malurion ar Afon Cadnant ger Ffordd Llanberis, Caernarfon. Bydd y sgrin yn helpu i gadw'r afon yn llifo drwy atal malurion fel canghennau coed a sbwriel rhag mynd i mewn i geuffos 1km o hyd sy'n rhedeg o dan strydoedd Caernarfon. Bydd hyn yn helpu i leihau'r perygl o lifogydd ar law trwm.
  • Mynydd Llandegai – Mae £1.25miliwn wedi'i roi ar gyfer adeiladu cynllun fydd yn helpu i leihau'r perygl o lifogydd yn y pentref. Bydd y gwaith yn cynnwys gwelliannau i ddraeniad dŵr wyneb, uwchraddio cwlfertau diffygiol presennol ac amddiffynfeydd llifogydd lleol i ddargyfeirio llwybrau llif oddi wrth eiddo. Mae'r gwaith hwn yn ychwanegol at yr ymyriadau rheoli llifogydd naturiol sydd eisoes mewn lle.

Dywedodd y Cynghorydd June Jones, aelod cabinet dros adran priffyrdd, peirianneg ac ymgynghoriaeth Cyngor Gwynedd: "Yn anffodus, mae llifogydd yn dod yn fwy ac yn fwy cyffredin oherwydd tywydd eithafol o ganlyniad i newid hinsawdd."

"Mae rhai o'n trefi a'n pentrefi wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol wnaeth achosi difrod sylweddol ac roedd yn dorcalonnus i bobl leol, ac mae cymunedau eraill mewn perygl o lifogydd."

"Rwy'n falch iawn bod y cyllid ar gyfer y gwaith pwysig hwn wedi'i sicrhau ac rwy'n falch ein bod wedi gallu gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a chymunedau lleol i gyrraedd y garreg filltir hon."

"Bydd y grant hwn yn galluogi ein peirianwyr i symud y prosiectau hyn ymlaen. Edrychaf ymlaen at weld y cynlluniau'n cael eu gwireddu ac yn helpu i amddiffyn pobl, cartrefi a busnesau Gwynedd."

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd ym Montnewydd, gyda gwaith ymchwilio i wal llifogydd stad Glanrafon wedi ei gynnwys yn y prosiect.

Ychwanegodd Sian Williams, pennaeth gweithrediadau CNC yn y Gogledd Orllewin: "Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd ar y prosiect hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru."

"Dangosodd ein hymchwiliadau cychwynnol i'r wal lifogydd, os bydd lefelau dŵr yn cynyddu'n sylweddol, y gallai ddod yn llai sefydlog."

"Mae tîm y prosiect yn edrych ar gynigion ar hyn o bryd a bydd yn datblygu opsiynau dylunio posibl yn y misoedd nesaf cyn rhannu'r rhain â'r cyhoedd."

"Yn dilyn y cyhoeddiad hwn ynghylch cyllido, rydym yn gobeithio cwblhau gwaith ar y wal yn haf 2026 yn amodol ar barhau i weithio mewn partneriaeth a chyflawni'r holl gydsyniadau a chymeradwyaeth angenrheidiol."

"Yn y cyfamser, rydym yn rheoli unrhyw berygl llifogydd posibl ac wedi dechrau trefn fonitro ac archwilio. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod cynlluniau wrth gefn yn eu lle."

Mae grantiau Llywodraeth Cymru yn amodol ar gymeradwyo achos busnes llawn, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan Gyngor Gwynedd mewn cydweithrediad â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Brecwast MônFM gyda Kev Bach

    7:00am - 10:00am

    Bore da! Mae Kev Bach yn nôl i ddeffro Ynys Môn a Gwynedd!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'