Gwaith i ailgychwyn ar Bont Menai

Tuesday, 11 February 2025 14:53

By Ystafell Newyddion MônFM

Disgwylir i gam nesaf y gwaith o adfer Pont Menai yn llawn ddechrau ar dydd Llun 3 Mawrth.

Bydd gwaith cam dau yn cynnwys paentio o dan y dec, uwchraddio goleuadau a rhai atgyweiriadau strwythurol terfynol i baratoi ar gyfer 200 mlwyddiant y bont yn 2026.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y bont yn parhau ar agor gyda mesurau rheoli traffig ar waith i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar drigolion lleol.

Bydd y cyfyngiad pwysau 7.5 tunnell hefyd yn cael ei ailgyflwyno yn ystod y cyfnod hwn i ‘ryddhau’ capasiti ar y bont fel y gellir gosod llwyfannau gwaith dros dro a chyfarpar angenrheidiol i gyflawni'r gwaith.

Mae'r Llwydroaeth Cymru yn cynghorir modurwyr i gadw at y cyfyngiad pwysau a chynllunio ymlaen llaw.

Dwyeddod Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates: "Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu pellach ar gymunedau ar ddwy ochr y bont."

"Yn dilyn adborth, gwnaethom oedi cam dau i leihau'r effaith ar fusnesau dros gyfnod y Nadolig a chynyddu gwydnwch yn ystod cyfnodau o dywydd garw. Roedd hyn yn fuddiol yn ystod stormydd diweddar pan gafodd Pont Britannia ei chau yn llawn."

“Byddem hefyd yn disgwyl tywydd gwell ar gyfer cam dau i barhau o fis Mawrth ymlaen."

“Hoffwn ddiolch unwaith eto i'r rhai yr effeithir arnynt am eu hamynedd wrth inni wneud y paratoadau terfynol i adfer y bont i'w chyflwr gorau mewn pryd ar gyfer ei 200 mlwyddiant ym mis Ionawr 2026."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 8:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'