Mae ffermwr o Lannerch-y-medd wedi osgoi carchar am esgeuluso gwartheg.
Cafodd nifer o wartheg a lloeau marw eu darganfod yn Bodafon y Glyn ynghyd ag eraill oedd yn denau neu’n ddadhydredig y bu’n rhaid eu difa.
Plediodd Daniel Jones yn euog i achosi dioddefaint diangen rhwng Ionawr 2023 ac Ebrill 2024.
Methodd Jones hefyd â sicrhau dulliau o adnabod gwartheg a chadw cofnodion milfeddygol, rhywbeth hanfodol ar gyfer sicrhau diogelwch bwyd a’r gadwyn fwyd.
Ni chafodd sgil-gynhyrchion anifeiliaid eu gwaredu yn y modd cywir chwaith, rhywbeth sy’n sicrhau rheolaeth iechyd anifeiliaid ac sy’n atal haint.
Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau, cafodd Jones ddedfryd o 12 mis o garchar, wedi'i ohirio am 18 mis.
Bydd hefyd angen iddo gwblhau 120 awr o waith di-dâl ac ymgymryd ag 16 mis o adsefydlu.
Dyfarnwyd costau o £8,000 i’r Cyngor Môn, yn dilyn yn dilyn ymchwiliad helaeth rrhwng swyddogion iechyd anifeiliaid ac Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Dyweddod y Cynghorydd Nicola Roberts, deilydd portffolio gwarchod y cyhoedd ar y cyngor: "Rydym yn croesawu’r gosb a roddwyd...daw’r ddedfryd hon yn dilyn ymchwiliad cynhwysfawr a gynhaliwyd gan ein swyddogion iechyd anifeiliaid."
"Credwn fod yr erlyniad hwn a’r ddedfryd a roddwyd yn dangos na fydd y math hwn o ymddygiad troseddol yn cael ei oddef."