Ffair grefftau Nadolig i agor yn Oriel Môn

Wednesday, 30 October 2024 00:05

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae Oriel Môn yn paratoi i agor ei ffair grefftau Nadolig poblogaidd yr wythnos nesaf.

Ers agor ym 1991, mae'r ganolfan gelfyddydau yn Rhosmeirch wedi cefnogi crefftwyr lleol drwy roi cyfle iddynt arddangos a gwerthu eu gwaith yn y ffair bob blwyddyn.

Mae'r eitemau sydd ar werth yn amrywio o emwaith i gelfi, gwaith coed, sebon a chanhwyllau, clustogau, gwydr a thecstilau i addurniadau Nadolig hwyliog.

Mae'r oriel yn ymfalchïo mewn arddangos a gwerthu cynnyrch unigryw, sydd wedi'i wneud â llaw, o'r safon uchaf.

Dywedodd Nicola Gibson, rheolwr profiad ymwelwyr Oriel Môn: "Mae'r ffair grefftau yn ddigwyddiad yr ydym i gyd yn edrych ymlaen ato yn yr oriel a dyma ddechrau'r Nadolig i ni. Rydym yn falch o'r ansawdd a'r amrywiaeth o bethau ar werth."

"Bob blwyddyn, byddwn yn arddangos gwaith gwneuthurwyr newydd a chyffrous ynghyd â'r ffefrynnau gan sicrhau bod bob amser rhywbeth newydd a chyffrous i'w weld yma".

Bydd gwin cynnes a mins peis ar gael yn lansiad y ffair grefftau Nadolig ar nos Wener 8 Tachwedd am 6yh.

Ar gyfer y rhai hynny sy'n dymuno creu rhywbeth Nadoligaidd eu hunain, pam ddim ymuno â'n gweithdy torch Nadolig ar 26 Tachwedd rhwng 1:00yp a 4:00yp am £45.

Mae gennym hefyd gweithdy addurniad cannwyll Nadoligaidd ar 13 Rhagfyr rhwng 2yp a 4yp am £37. Mae'r prisiau yn cynnwys deunyddiau a lluniaeth. Mae'n hanfodol eich bod yn cad eich lle, cysylltwch ag addysgorielmon@ynysmon.llyw.cymru neu 01248 724 444.

Bydd y ffair grefftau nadolig ar agor bob dydd Mawrth i dydd Sul rhwng 10yb a 5yh tan Noswyl Nadolig, pan fydd yr oriel yn cau am 12.30yh.

Bydd Oriel Môn hefyd yn cau'n gynnar Nos Galan ac ar gau ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01248 724444 neu anfonwch neges at www.orielmon.org

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM Sport with Ryan McKean

    2:00pm - 5:00pm

    Ryan McKean keeps you up to date with all the latest football scores across North Wales

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'