Enwi Prif Weithredwr newydd Galeri

Wednesday, 4 December 2024 08:48

By Ystafell Newyddion MônFM

Galeri

Mae Galeri Caernarfon wedi penodi prif weithredwr newydd.

Nia Arfon fydd yn arwain y ganolfan gelfyddydol ar ôl treulio deng mlynedd gyda Menter Môn fel cyfarwyddwr rhaglenni.

Mae penodiad yn dod yn sgil ymadawiad Steffan Thomas, a blediodd yn euog yn y llys i stelcian dynes.

Cafodd ei wahardd o’r rôl ym mis Ebrill, cyn gadael y cwmni bedwar mis yn ddiweddarach.

Mae Nia, sy'n byw yng Nghaernarfon, wedi bod yn arwain prosiectau iaith, pobl ifanc a phrosiectau adfywio strategol yng Ngwynedd a Môn.

Bu’n gyfrifol am bortffolio cynlluniau cymunedol y cwmni yn cynnwys prosiectau Arfor, Economi Gylchol a rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin Grymuso Gwynedd.

Mae Galeri hefyd wedi penodi Meleri Davies fel prif weithredwr dros dro tan fis Chwefror, pan fydd Nia yn dechrau ar ei rôl newydd yn swyddogol.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'