Mae dyn o Gogledd Iwerddon wedi’i gyhuddo, yn dilyn atafaelu llawer iawn o lyswennod prin ym Mhorthladd Caergybi.
Mi gafodd cerbyd ei stopio yn y porthladd gan heddlu’r ffiniau ym mis Ionawr eleni, lle casglwyd nifer o focsys yn cynnwys pysgod.
Mae’r Llysywen Ewropeaidd wedi ei rhestru fel rhywogaeth mewn perygl difrifol ar restr goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN), oherwydd ei fod ar drengi.
Mae Kevin Forbes (32 oed) Dungannon, wedi ei gyhuddo o droseddau o dan y Ddeddf Tollau Tramor a Chartref, Rheoliadau Rheoli Masnach mewn Rhywogaethau mewn Perygl 2018 a’r Ddeddf Lles Anifeiliaid.
Mi lansiwyd ymchwiliad ar y cyd i’r digwyddiad, rhwng Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru, yr Uned Troseddau Byd Natur a’r Ganolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS).
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Mae llyswennod yn chwarae rôl allweddol mewn ecosystemau dŵr croyw, fel heliwr o’r rheng uchaf, sy’n helpu rheoli poblogaethau rhywogaethau eraill a chynnal bioamrywiaeth dŵr croyw."
"Maen nhw hefyd yn ffynhonnell fwyd hanfodol i nifer o adar, mamaliaid a physgod mawr."
Bydd Forbes yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth 28 Tachwedd.