
Mae dyn o Gaergybi wedi cael ei garcharu ar ôl ymosod ar ddwy swyddog heddlu benywaidd.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug, plediodd Brian Owens yn euog i ymosod ar weithiwr brys, dau gyhuddiad o fygythiadau i ladd ac am ymosod a thorri gorchymyn ymddygiad troseddol.
Ar 27 Chwefror, cafodd swyddogion eu galw i ddelio ag ymosodiad ar Turkey Shore Road yn ymwneud ag Owens.
Aeth swyddogion i'r ardal a dod o hyd i Owens a ymosododd yn dreisgar arnyn nhw, gan afael mewn un swyddog wrth ei gwallt a thynnu cudynnau o'i gwallt allan cyn ei tharo yn ei hwyneb. Yna rhoddodd ei ddwylo o amgylch gwddf swyddog arall a'i thagu.
Er gwaethaf yr ymosodiad parhaus a threisgar hwn, llwyddodd y swyddogion i arestio Owens.
Cafodd Owens ei ddedfrydu i flwyddyn a 10 mis yn y carchar.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Wayne Francis o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae Owens yn droseddwr toreithiog a oedd eisoes yn destun gorchymyn ymddygiad troseddol cyn y digwyddiad."
"Ni fyddwn yn goddef unrhyw ymosodiad ar weithwyr y gwasanaethau brys sy'n ceisio gwneud eu gwaith i gadw eraill yn ddiogel."
"Byddwn yn annog aelodau o'r cyhoedd i riportio unrhyw drais tuag at weithwyr brys, sy'n mynd i'r gwaith bob dydd i wynebu perygl i'ch helpu ac i'ch diogelu."