Mae dyn o Gaerwen wedi cael aduniad gyda'r cymdogion a'r tîm meddygol a achubodd ei fywyd.
Ym mis Mehefin 2024, roedd Jack Thomas yn newid y crogiant ar ei gar yn ei gartref yng Ngaerwen pan fethodd y jac ac o ganlyniad disgynnodd y car, a’i ddal oddi tano.
Yn ffodus, gwelodd ei gymydog, Nicole Taylor, Jack o dan y car a hi oedd y cyntaf i geisio cymorth gan eraill oedd gerllaw, gan gynnwys Sasha Wyn Evans - nyrs newyddenedigol o Ysbyty Gwynedd ym Mangor - a daeth y cymdogion i gyd i’w gynorthwyo a chodi’r cerbyd i’w ryddhau.
Roedd Jack yn anymwybodol ac nid oedd yn anadlu, dechreuodd Sasha CPR ar unwaith i roi'r siawns orau iddo oroesi cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.
Ian Parry, parafeddyg gan Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, oedd yr ymatebwr meddygol cyntaf i gyrraedd ac mae wedi canmol y cymdogion a ddaeth i gynorthwyo Jack.
“Pan gyrhaeddais, gwelais Sasha yn cywasgu brest Jac, gydag Emyr yn eilio a dywedais wrthyn nhw am ddal ati” meddai “roedd ei galon yn curo eto erbyn hynny, ac roedd y ffaith eu bod wedi gwneud CPR yn syth wedi achub ei fywyd.”
Oherwydd lefel anafiadau Jack, anfonwyd Ambiwlans Awyr Cymru ato hefyd.
Yn dilyn triniaeth gan y parafeddygon, a’r tîm gofal critigol ar fwrdd Ambiwlans Awyr Cymru, cafodd ei gludo wedyn yn yr hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke lle cafodd ei roi yn yr Uned Gofal Critigol.
Diolch byth, fe wellodd yn wyrthiol, a dychwelodd adref ymhen llai na phythefnos.
Dywedodd Jack: “Dydw i ddim yn cofio beth ddigwyddodd” meddai “fe wnes i ddeffro yn Stoke bum diwrnod yn ddiweddarach a doedd gen i ddim syniad sut roeddwn i wedi cyrraedd yno."
“Rydw i mor ddiolchgar i fy nghymdogion a’r ymatebwyr brys am yr hyn a wnaethant y diwrnod hwnnw, hebddyn nhw, fyddwn i ddim yma heddiw."
“Rydw i wedi gwella mor dda ers gadael yr ysbyty, mae pawb wedi synnu fy mod yn ôl ar fy nhraed yn barod, a byddaf yn dechrau gweithio eto cyn bo hir. Rydw i’n meddwl mai'r rheswm pennaf am hyn yw'r ffaith fy mod wedi cael CPR yn syth."
Dywedodd Sasha fod y digwyddiad wedi tynnu sylw at bwysigrwydd CPR ac mae bellach yn annog cymaint o bobl â phosibl i ddysgu sut i wneud y weithred hon sy’n achub bywydau.
“Mae’n anodd iawn i mi gymryd clod am rywbeth mae rhywun wedi’i hyfforddi i’w wneud fel nyrs."
"Ond fyddech chi byth yn meddwl y byddwch yn gorfod treulio bore yn helpu’ch cymdogion i ryddhau rhywun sy’n gaeth o dan gar ac yna’n gorfod rhoi cywasgiadau’r frest iddyn nhw, yr hunllef fwyaf i unrhyw un, boed yn nyrs neu beidio."
“Yn bersonol, rydw i’n teimlo bod y digwyddiad hwn wedi amlygu pwysigrwydd derbyn rhyw fath o hyfforddiant achub bywyd brys, a byddwn yn annog unrhyw un i wneud hynny oherwydd dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd angen i chi ei ddefnyddio.”
Daeth Carl Hudson, parafeddyg gofal critigol ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, i’r digwyddiad hwn ynghyd â’i gydweithiwr John Adams, ac mae’n cefnogi galwadau Sasha am i fwy o bobl ddysgu CPR.
Dywedodd: “Yn anffodus, pur anaml y gwelwn ganlyniad da mewn digwyddiad o’r fath ac mae hyn wedi digwydd y tro yma oherwydd bod cymdogion Jack wedi dod i’w helpu mor gyflym a bod CPR wedi cychwyn yn syth."
“Mae wedi bod yn wych gweld Jack eto a’i weld yn edrych mor dda ar ôl yr hyn ddigwyddodd – rydw i hefyd am ategu’r hyn y mae Sasha yn ei ddweud, mae’n bwysig iawn i bawb ddysgu CPR, mae’n arf hanfodol i’w gael os ydych byth yn y sefyllfa anffodus o fod angen ei ddefnyddio ond fel y gallwn weld gyda Jack, heb hynny efallai na fyddai pethau wedi mynd mor dda.”
Oherwydd y digwyddiad, mae Jack, ei deulu a’i ffrindiau yn bwriadu ymgymryd â Her 3 Chopa Cymru ym mis Medi 2025 er budd Ambiwlans Awyr Cymru a Thîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen.
Ychwanegodd mam Jack, Angharad: “Mae’n anodd credu bod Jack cystal ar ôl yr hyn a ddigwyddodd, roedd ei asennau a phont yr ysgwydd wedi torri, a’i ddueg wedi’i rhwygo ond gallai pethau fod wedi bod cymaint gwaeth."
“Allwn ni ddim diolch digon i’n cymdogion a’r gwasanaethau brys, maen nhw’n bobl anhygoel. Cawsom hyd yn oed ein hebrwng gan yr heddlu i’r ysbyty yn Stoke er mwyn i ni allu bod yno gyda Jack cyn gynted â phosibl – roedd yr hyn a wnaeth pawb yn rhyfeddol.”