Mae siop yng Ngahernarfon wedi ei orchymyn i dalu bron i £13,000 mewn dirwyon a chostau am werthu a chyflenwi tybaco ac e-sigarét anghyfreithlon.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fore Gwener, plediodd Michael Owen Williams yn euog i drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus, wedi'i gwaethygu gan hiliaeth.
Yn Llys Ynadon Caernarfon, pleidodd perchennog Supercigs yn euog i bum cyhuddiad, gan gynnwys un o dwyll, yn dilyn cyrch gan swyddogion Safonau Masnach yn y siop ar Stryd y Bryn ym mis Medi 2023.
Clywodd y llys fod swyddogion cudd oedd yn gweithio gydag uned safonau masnach Cyngor Gwynedd wedi cynnal prawf-brynu yn y siop, a arweiniodd at y siop yn gwerthu cynnyrch tybaco anghyfreithlon i'r swyddog.
Ar ymweliad diweddarach â’r safle ar yr un diwrnod, llwyddodd swyddogion Safonau Masnach atafaelu mwy na 800 o gynhyrchion anghyfreithlon - gan gynnwys 225 o becynnau sigarét anghyfreithlon, 63 becynnau o dybaco rholio â llaw anghyfreithlon, 519 o fêps un-tro anawdurdodedig a halwynau nicotin, ac 20 o nwyddau PRIME anawdurdodedig.
Arweiniodd hyn at bum cyhuddiad yn cael eu dwyn yn erbyn y cwmni Supercigs Convenience Store Ltd. Ymddangosodd Mr Idres Khder, yr unig gyfarwyddwr ar y cwmni, yn y llys ar ran y busnes a phlediodd yn euog i bob un o’r pum cyhuddiad.
Rhoddodd y llys ddirwy o gyfanswm o £9,062.20 i Supercigs. Gorchmynnwyd y busnes hefyd i dalu costau o £1,751.48 i'r Cyngor, a gordal dioddefwr o £2,000, sef cyfanswm o £12,813.68.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, aelod cabinet Cyngor Gwynedd dros yr amgylchedd: "Mae ein swyddogion safonau masnach yn gweithio’n galed i sicrhau bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus yn y nwyddau maen nhw’n eu prynu o siopau a busnesau’r sir."
"Mae’r achos hwn yn dangos ein bod yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifri, ac rwy’n falch o weld erlyniad safonau masnach lwyddiannus mewn perthynas â gwerthu a chyflenwi tybaco anghyfreithlon a e-sigarét. Mae'r ddedfryd yn adlewyrchu difrifoldeb y troseddau hyn."
"Mae masnachu mewn tybaco anghyfreithlon a e-sigarét yn cefnogi trosedd, yn niweidio busnesau cyfreithlon, yn tanseilio iechyd y cyhoedd ac yn hwyluso cyflenwi tybaco ac e-sigarét i bobl ifanc."
"Mae diogelu’r cyhoedd yn flaenoriaeth, a bydd y cyngor bob amser yn cymryd camau gorfodi lle bo angen i helpu i gadw ein cymunedau lleol yn ddiogel yn ogystal â chefnogi busnesau lleol sy’n cydymffurfio â’r gyfraith."
Gorchmynnodd y llys hefyd i ddinistrio'r holl nwyddau a atafaelwyd.