Dirwy i ddyn am storio anghyfreithlon

Monday, 25 November 2024 06:48

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae dyn o Fodorgan wedi cael gorchymyn i dalu dros £1100 am storio carafanau a cherbydau eraill heb ganiatâd cynllunio.

Cafwyd Wayne Jones yn euog o diystyru gorchymyn gorfodi gan swyddogion cynllunio o Gyngor Ynys Môn.

Roedd yr achos yn ymwneud â newid defnydd o dir amaethyddol ym Mwthyn Ffynnon, Capel Mawr, Bodorgan.

Ni fynychodd Jones y gwrandawiad fis diwethaf yn Llys Ynadon Caernarfon ac nid oedd wedi cofnodi ple.

Roedd y tir amaethyddol o dan sylw wedi ei ddefnyddio ar gyfer storio carafán sefydlog, carafán deithiol, loriau ceffylau, cychod, unedau storio a cherbydau eraill.

Yn ôl y cyngor, roedd hyn yn achos o "ddatblygiad heb awdurdod mewn cefn gwlad agored" a oedd hefyd yn cael "effaith andwyol annerbyniol" ar yr ardal leol, sydd wedi’i dynodi’n ardal Tirlun Arbennig.

Nid oedd swyddogion cynllunio o’r farn y dylid rhoi caniatâd cynllunio gan na fyddai unrhyw amodau cynllunio yn datrys y gwrthwynebiadau.

Cafodd Jones o Allt Feirian, Hermon, Bodorgan, ei erlyn am fethu â chydymffurfio â Hysbysiad Gorfodi Cynllunio a roddwyd gan y cyngor ym mis Ionawr 2024. 

Gofynnodd y cyngor i’r mater gael ei brofi yn ei absenoldeb ac, yn dilyn cymeradwyaeth, cafodd cyflwyniadau yn gysylltiedig â’r drosedd eu cyflwyno i’r ynadon.

Cafwyd Mr Jones yn euog yn ei absenoldeb ac fe’i gorchmynnwyd i dalu dirwy o £660, tâl dioddefwr o £264 a chostau erlyn o £200 - cyfanswm o £1,124. 

Yn dilyn yr achos, dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, y deilydd portffolio cynllunio Cyngor Môn: "Yn wahanol i’r mwyafrif o bobl, ni fu Mr Jones geisio caniatâd cynllunio cyfreithlon. Dewisodd ddefnyddio’r tir amaethyddol yma heb ganiatâd ac felly rhoddwyd hysbysiad gorfodi cynllunio iddo.”

"Ni fydd Cyngor Sir Ynys Môn yn dioddef achosion o dorri rheolau cynllunio o’r natur hwn a bydd yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol er mwyn eu datrys."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    3:00am - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'