Mae Cyngor Gwynedd yn holi am farn y cyhoedd yn dilyn cyfnod prawf o godi ffioedd parcio yn Ninas Dinlle.
Dros fisoedd Awst a Medi eleni, roedd ffi yn daladwy os am barcio am fwy nag awr rhwng 9am a 5pm yn y ddau brif faes parcio.
Mae'r cyngor yn gofyn am adborth a sylwadau’r cyhoedd am y gwelliannau a wnaed i’r cyfleusterau ac am y cyfnod arbrofol hwn o godi tâl am barcio.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Yn gynharach eleni, cwblhawyd gwelliannau i faes parcio Dinas Dinlle yn cynnwys ail-wynebu, addasu’r fynedfeydd, marcio mannau parcio, tirweddu ac uwchraddio cyfleusterau."
“"Yn ystod yr haf – o ganol mis Awst a gydol mis Medi – cafwyd cyfnod arbrawf o godi ffi i barcio rhwng 9am a 5pm yn ddyddiol. Rydym nawr yn adolygu a gwerthuso’r trefniadau arbrofol fel rhan o waith i ddatblygu cynllun rheoli parhaol ar gyfer y safle."
“Gwahoddir adborth gan drigolion a busnesau lleol, defnyddwyr y maes parcio ynghyd â sefydliadau statudol fel rhan o’r gwaith gwerthuso."
Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn cael eu hystyried yn fanwl wrth i’r Cyngor symud ymlaen i lunio cynigion parhaol ar gyfer y safle, fydd yn destun ymgynghori ffurfiol pellach yn ystod 2025.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus, ewch i wefan Cyngor Gwynedd neu Siop Gwynedd Caernarfon a Phwllheli neu lyfrgelloedd Caernarfon a Phenygroes.
Dyddiau cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw dydd Gwener 13 Rhagfyr 2024.