Dechrau ar waith i ddiogelu ysbyty chwarel

Tuesday, 29 October 2024 23:31

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Fe fydd gwaith i warchod Ysbyty Chwarel y Penrhyn ger Bethesda yn dechrau yn fuan.

Bydd rhaglen helaeth o waith cadwraeth "sensitif" yn cymryd saith mis i'w gwblhau, meddai Cyngor Gwynedd.

Mae'r cam hwn yn dilyn rhaglen o waith cofnodi a gwaith brys gan gynnwys clirio llystyfiant a gwaith maen a wnaed yn gynharach yn 2024.

Bydd diwrnodau agored yn cael eu trefnu yn ystod cyfnod y gwaith er mwyn caniatáu i aelodau o'r cyhoedd weld drostynt eu hunain beth sy'n digwydd yn yr hen ysbyty, sy'n dyddio'n ôl i'r 19eg ganrif.

Dwyeddod y Cynghorydd Nia Jeffreys, arweinydd dros dro y cyngor: "Bydd y gwaith hanfodol hwn yn diogelu'r heneb ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan hwyluso gwell cyfleoedd ar gyfer mynediad a dehongli'r safle poblogaidd hwn."

"Mae Cyngor Gwynedd yn falch o fod yn bartner yn y prosiect hwn ac mae'n edrych ymlaen at weithio gyda Llechi Cymru a Cadw ar y cynllun."

Mae Ysbyty Chwarel y Penrhyn wrth ymyl llwybr beicio Lôn Las Ogwen sy'n cysylltu Porth Penrhyn â chymunedau lleol, y dirwedd lechi a'r mynyddoedd y tu hwnt ac wedi'i leoli o fewn safle treftadaeth y byd tirwedd llechi Gogledd-orllewin Cymru.

Mae gan yr ysbyty ran bwysig yn hanes llechi Cymru, ac yn arbennig rôl iechyd a lles o fewn y gymdeithas lechi.

Bydd y gwaith yn ganolbwyntio ar atal dirywiad pellach a gwneud y safle'n fwy sefydlog ac yn fwy diogel i ymwelwyr, gan gynnwys:

  • sefydlogi a chyfnerthu cyflwr y waliau sy'n dirywio drwy fynd i'r afael â diffygion strwythurol;
  • sefydlogi a chyfnerthu'r gwaith maen a phwyntio morter;
  • cyflwyno copin cerrig a gwaith ar bennau'r waliau er mwyn lleihau faint o ddŵr sy'n mynd i graidd y wal;
  • gwarchod y manylion pensaernïol a hanesyddol sy'n weddill oddi mewn;
  • rheoli twf llystyfiant.

Bydd sicrhau bod y strwythur yn ddiogel hefyd yn caniatáu ar gyfer cynnal a chadw parhaus yn y dyfodol. Ni fydd y prosiect yn effeithio ar fynediad i Lôn Las Ogwen.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley, cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru: "Mae stori iechyd a lles yn y dyffrynnoedd llechi yn rhan hanfodol a diddorol o'i hanes."

"Roedd y chwarelwyr yn arloeswyr pan ddaeth hi i ofal cymdeithasol, ac arweiniodd yr ysbytai hyn y ffordd mewn llawer o'r triniaethau a'r feddyginiaeth yr ydym yn dibynnu gymaint arnynt yn y gwasanaeth iechyd heddiw."

"Mae diogelu'r strwythur hwn yn hanfodol wrth adrodd hanes gofal iechyd ar draws y safle treftadaeth y byd."

"Mae gennym Ysbyty Chwarel Dinorwig yn Llanberis sydd wedi'i ailagor fel amgueddfa ac Ysbyty Chwarel Ffestiniog sydd wedi bod yn dŷ preifat ers tro, felly mae sicrhau bod Ysbyty Chwarel y Penrhyn yn gallu cyfleu hanes ei leoliad drwy ddiogelu'r strwythur a chynnwys dehongli yn arbennig iawn."

Mae'r gwaith yn rhan o'r prosiect Llewyrch o'r Llechi, sydd werth dros £27 milliwn i gyd. Mae'n cynnwys gwaith i greu tair canolfan ddiwylliannol yn ardaloedd Llanberis, Bethesda a Blaenau Ffestiniog gyda llawer o brosiectau wedi'u harwain gan sefydliadau sydd â'u gwreiddiau yn y cymunedau hynny.

Yn Nyffryn Ogwen, mae gwelliannau'n digwydd ar hyd Lôn Las Ogwen. Ym Methesda gerllaw, mae Neuadd Ogwen wedi derbyn cyllid i uwchraddio'r adeilad er mwyn cadarnhau ei statws fel canolfan ddiwylliannol fywiog i'r ardal.

Bydd menter gymdeithasol leol, Partneriaeth Ogwen, hefyd yn derbyn cyllid i adfywio adeilad gwag yng nghanol y dref yn ganolfan dreftadaeth a chymunedol.

Mae Recclesia Ltd, contractwr sydd â phrofiad o gadwraeth adeiladau hanesyddol wedi cael ei benodi i ymgymryd â'r gwaith dan oruchwyliaeth y penseiri cadwraeth, Donald Insall Associates.

Dywedodd Elgan Jones o Donald Insall Associates: "Mae'r gwaith cadwraeth yn cael ei wneud ar adeg dyngedfennol yn hanes yr adeilad; amlygodd y gwaith o dynnu'r llystyfiant gyflwr bregus ffabrig yr adeilad ac, heb yr ymyrraeth hon, byddai'n debygol o ddirywio'n gyflym, gan wneud y strwythur yn anniogel ac yn y pen draw yn arwain at iddo gwympo."

"Rydym yn falch iawn o weithio ochr yn ochr â thîm prosiect angerddol sydd â nod cyffredin i ddiogelu'r ffabrig a gwarchod y manylion pensaernïol a hanesyddol, sy'n adrodd hanes ei ddefnydd a'i rôl flaenorol yn y dirwedd lechi ehangach."

Ychwanegodd Barry O'Connor, rheolwr cyffredinol gan Welsh Slate, sy'n rhan o Grŵp Breedon: "Rydym yn deall bod hoffter i'r safle yn lleol, ac, fel tirfeddianwyr, rydym am sicrhau bod y safle'n cael ei gynnal a'i gadw mor sensitif â phosibl."

"Fel partner balch yn y prosiect, rydym wrth ein bodd y bydd ein cyfraniad o ddeunyddiau tuag at y gwaith yn galluogi i'r cyllid fynd ymhellach tuag at gadwraeth sensitif y strwythur."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'