Dau ddyn yn osgoi carchar am ymyrryd â daear moch daear

Saturday, 19 October 2024 10:13

By Ystaffell Newyddion MônFM

Geograph

Mae dau ddyn o Wynedd wedi eu dedfrydu am ymyrryd â daear moch daear.

Mi achosodd Anthony Wilkinson a Stephen Jones i gi fynd i ddaear moch daear yng Ngarndolbenmaen ym mis Ionawr - mi gafodd efi ddifrodi.

Mi wnaeth ymholiadau arwain yr heddlu at ddau unigolyn o dan amheuaeth, ac yno mi gyflawnwyd gwarantau chwilio mewn dau gyfeiriad. O ganlyniad, mi gafodd ddau gi eu hatafaelu o dan y ddeddf Lles Anifeiliaid.

Yn Llys Ynadon Llandudno, pleidiodd Wilkinson (29) o Llanllyfni a Jones (33) o Bethel yn euog i ymyrryd â ac achosi difrod i ddaear moch daear.

Mae’r mochyn daear yn rywogaeth warchodedig, ac mae’n anghyfreithlon i’w ladd, anafu neu ei ddal, neu i ymyrryd â’i ddaearau.

Mi dderbyniodd y ddau ddedfryd i’r carchar am 12 wythnos, sydd wedi’u gohirio am flwyddyn.

Maen nhw hefyd wedi eu gwahardd rhag cadw cŵn am bedair mlynedd, ac wedi cael gorchymyn i dalu £600 yr un tuag at y RSPCA.

Dywedodd y swyddog ymchwilio, Matt Raymond o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’r gyfraith er mwyn gwarchod moch daear yn bodoli am reswm da, a ‘da ni’n cymryd pob hysbysiad o ddifri."

“Fel arfer, mae troseddau o’r math yma yn anodd i’w rhoi gerbron y llys oherwydd nad ydyn nhw’n rhai cyffredin, felly ‘dwi’n croesawu’r canlyniad yma, sydd hefyd yn arddangos pwysigrwydd y gwaith partneriaeth sydd gennym ni efo’r RSPCA pan yn ymchwilio i droseddau cefn gwlad."

“Ni wnawn ni oddef troseddau cefn gwlad o’r fath, ac mi fydden nhw’n cael eu hymchwilio, a chael eu trin yn llym yn y llys.”

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'