Cynnal is-etholiad cyngor yn Talybolion

Thursday, 19 September 2024 14:35

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae Cyngor Môn wedi galw is-etholiad ar gyfer sedd wag yn ward Talybolion.

Mae’n dilyn ymddiswyddiad Llinos Medi, a gafodd ei hethol yn AS newydd Ynys Môn yn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf.

Roedd Ms Medi yn gynghorydd am 11 mlynedd o 2013, gan gynnwys saith mlynedd fel arweinydd y cyngor o 2017.

Mae ward Talybolion, yng ngogledd orllewin yr ynys, yn cael ei chynrychioli gan dri chynghorydd sir.

Mae dwy o’r tair sedd yn cael eu dal gan Blaid Cymru, gyda’r drydedd sedd bellach yn wag.

Rhaid danfon papurau enwebu i’r swyddog canlyniadau, Dylan J Williams, cyn 4yp ar ddydd Gwener 27 Medi.

Os bydd yr etholiad yn cael ei hymladd, cynhelir y bleidlais ar ddydd Iau 24 Hydref.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Ynys Môn.

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Rhaglen yr 80au a 90au

    9:00pm - 11:00pm

    Dwy awr o gerddoriaeth gwych o'r 80au a'r 90au gyda Llion Thomas ar MônFM.

Wedi Chwarae / Previously Played

  • 10:02pm

    The Show Must Go On

    Queen
  • 9:55pm

    Hunting High And Low [[]7\" Remix]

    A-Ha
  • 9:50pm

    St Elmo's Fire

    John Parr
FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'