Cynllun tai gwag yn ehangu yng Ngwynedd

Wednesday, 2 October 2024 15:27

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Bydd cyllid i adnewyddu tai gwag ar gael i bob prynwr cymwys yng Ngwynedd

 

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi newidiadau sylweddol i’w gynllun grantiau cartrefi gwag i gefnogi mwy o drigolion lleol i droi eiddo gwag yn gartrefi o safon.

Bydd y grant – a oedd ar gael yn flaenorol i brynwyr tro cyntaf yn unig – yn awr yn agored i bob prynwr cymwys yn y sir.

Yn ogystal, cynyddwyd uchafswm y grant o £15,000 i £20,000, i adlewyrchu cynnydd yng nghostau nwyddau a gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf.

Ariennir y cynllun gwerth £4 miliwn gan gyllid o bremiwm treth y cyngor ar ail gartrefi, ac mae eisoes wedi helpu bron i 170 o drigolion trwy Wynedd.]

Derbyniodd Gethin Jones grant gan y cyngor tuag at adnewyddu ei gartref newydd yn Chwilog, ger Pwllheli.

Dyweddod Gethin: "Dan ni’n edrych ymlaen at setlo lawr yn ein cartref yma yn Chwilog, a chychwyn pennod newydd fel teulu efo babi ar y ffordd."

"Mae’r grant cartrefi gwag wedi helpu ni i gwblhau atgyweiriadau hanfodol i’r tŷ, fel gosod ffenestri newydd, ailadeiladu’r simnai a gwaith trydanol, yn llawer cyflymach na fysa ni wedi gallu gwneud ar ben ein hunain, a chael y lle yn barod i ni fel teulu mewn da bryd."

"Heb y grant, fysa ni ddim lle ydan ni rŵan, mae hynny’n saff! Mae’n golygu ein bod ni’n gallu cario mlaen i weithio ar y tŷ a’i wneud yn gartref am flynyddoedd i ddod."

“Roedd y tŷ wedi bod yn wag ers dros flwyddyn cyn i ni symud i mewn, ac roedd y cyn-berchennog, dynes leol, wir eisiau ei werthu i bobl leol."

"Gafodd y ddau ohonom ni ein magu yn agos i Chwilog ac mae'n golygu lot i ni i allu aros yn agos i’n teuluoedd a magu ein plentyn yn yr ardal ‘dan ni’n nabod a charu."

Bwriad y cynllun, sydd wedi bod yn weithredol ers 2021, yw dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd trwy gynnig grant i adnewyddu cartrefi i safon byw dderbyniol.

Nid dyma’r addasiad cyntaf i’r cynllun grantiau, gyda’r cyngor yn ymestyn y meini prawf ym mis Awst 2023 i gynnwys tai segur a fu’n arfer bod yn ail gartrefi gan ehangu’n bellach yr opsiynau sydd ar gael i bobl leol brynu cartref.

Dyma un o 33 prosiect yng nghynllun gweithredu tai gwerth £140 miliwn y cyngor i sicrhau fod gan bobl Gwynedd fynediad at gartrefi fforddiadwy yn eu cymunedau eu hunain.

Mae cynlluniau eraill yn cynnwys gostyngiadau TAW ar adnewyddu eiddo sydd wedi bod yn segur, benthyciadau gan Lywodraeth Cymru, a Chynllun Lesu Cymru, sy'n caniatáu i landlordiaid lesu eiddo gwag i'r cyngor am incwm gwarantedig.

Ychwanegodd y Cynghorydd Craig ab Iago, aelod cabinet tai ac eiddo Cyngor Gwynedd: "Mae bron i 5,400 o dai gwag yn y sir ar hyn o bryd, gan gynnwys ail gartrefi, sy’n wrthgyferbyniad llwyr i'r ffaith bod bron i 900 o bobl wedi cyflwyno’n ddigartref yng Ngwynedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf."

"Mae’n gwbl anfoesol bod gymaint o gartrefi Gwynedd yn segur pan fo’r galw am dai mor uchel ac mae'r ymyrraeth yma, ynghyd â mesurau eraill yng Nghynllun Gweithredu Tai'r Cyngor, yn hollbwysig i ddiogelu dyfodol ein cymunedau."

"Rydym wedi gwrando ar bobl Gwynedd – mae mwy a mwy o bobl angen ein cefnogaeth, boed hynny’n brynwyr tro cyntaf neu deulu sydd mewn angen dybryd am dŷ mwy."

"Mae prisiau hefyd wedi codi ers i ni lansio’r cynllun yn 2021, ac rydym wedi addasu i adlewyrchu’r realiti yma trwy gynyddu’r grant sy’n cael ei gynnig."

"Mi faswn i’n annog unrhyw un sy’n edrych i brynu tŷ gwag neu cyn ail gartref i edrych ar wefan y cyngor am fwy o fanylion, neu gysylltu â thîm tai gwag y cyngor am sgwrs."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'