Cynllun peilot tai yn Nwyfor yn "llwyddiant"

Thursday, 17 October 2024 00:44

By Ystaffell Newyddion MônFM

Arsyllfa

Mwy o bobl yn dod yn berchnogion tai am y tro cyntaf oherwydd gynllun peilot ail gartrefi arloesol yn ardal Dwyfor, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Cafodd y peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd ei lansio yn 2022, ac ers hynny, mae 25 o geisiadau Prynu Cartref wedi'i gwblhau yn lleol.

Mae Prynu Cartref yn gynllun a grëwyd i helpu pobl na allent fforddio prynu eiddo ac mae o fudd arbennig mewn cymunedau mwy gwledig lle mae’n bosibl nad oes llawer o gyfleoedd i brynu cartref.

Cyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei pheilot ail gartrefi, dim ond un Prynu Cartref wedi'i gwblhau yn Nwyfor mewn pum mlynedd.

Lansiodd gynllun peilot Dwyfor fel rhan o ystod o fesurau i fynd i’r afael â materion a achosir gan berchentyaeth ail gartrefi yng Ngwynedd.

Dewiswyd Dwyfor fel yr ardal beilot ar sail ei maint daearyddol, y crynhoad o ail gartrefi yng nghymunedau'r ardal a'r materion sy'n wynebu'r Gymraeg.

Dwyeddod Ysgrifennydd Tai, Jayne Bryant: "Mae cynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd Dwyfor yn parhau i gynnig cyfle gwirioneddol i asesu ystod o ymyriadau radical sydd wedi'u cynllunio i gefnogi cymunedau lleol ffyniannus lle gall pobl fforddio byw a gweithio ynddynt."

"Mewn cymuned mor fach a chydag anghenion arbennig Dwyfor, mae hyn yn llwyddiant gwirioneddol ac rwy'n diolch i swyddogion Tai Teg, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru am eu camau rhagweithiol."

Fis diwethaf, Cyngor Gwynedd oedd yr awdurdod cynllunio lleol cyntaf yng Nghymru i weithredu cyfarwyddyd cynllunio Erthygl 4.

Mae hyn yn golygu y gallai fod angen caniatâd cynllunio cyn newid y defnydd o eiddo preswyl cynradd i ail gartref, llety gwyliau tymor byr neu eiddo defnydd cymysg penodol.

Mae mwy o awdurdodau lleol hefyd wedi penderfynu defnyddio'r pwerau sydd ar gael iddynt i godi premiymau y dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.

O fis Ebrill nesaf, bydd 21 o'r awdurdodau lleol yn codi premiwm ar naill ai ail gartrefi neu eiddo gwag hirdymor neu'r ddau.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog cynghorau lleol i ddefnyddio'r premiymau treth gyngor i helpu i ddatblygu "atebion tai fforddiadwy".

Mae ymyriadau sy'n cael eu profi yn Nwyfor, fel y cyfarwyddiadau cynllunio arloesol, ar gael i bob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru. Gall pob awdurdod lleol ddefnyddio premiymau y dreth gyngor.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM Sport with Ryan McKean

    2:00pm - 5:00pm

    Ryan McKean keeps you up to date with all the latest football scores across North Wales

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'